Ynglŷn â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae'r Coleg yn chwarae rhan bwysig drwy sefydlu amgylchedd dysgu dwyieithog a chefnogi cynaliadwyedd a thwf hirdymor y Gymraeg.
Cafodd y Coleg ei sefydlu yn 2011 i ddarparu dull strwythuredig i addysg uwch cyfrwng Cymraeg fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru i wella a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys addysg.
Mae ei ymdrechion yn sicrhau bod yr iaith yn ffynnu mewn lleoliadau academaidd a phroffesiynol, ac ym mywyd bob dydd drwy Gymru benbaladr.
Pam astudio yn Gymraeg?
Mae llawer o fanteision i ddewis astudio cwrs prifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg:
- Mantais yn y farchnad swyddi: Mae cael sgiliau Cymraeg yn rhoi mantais sylweddol yn y farchnad swyddi. Mae llawer o gyflogwyr yng Nghymru yn chwilio am unigolion sy'n raddedigion prifysgol ac sy'n gallu gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg.
- Y tu hwnt i ddysgu: Cofiwch fod y brifysgol yn fwy na dim ond academyddion. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae gennym gymuned Gymraeg fywiog sy'n cynnig digwyddiadau cymdeithasol, gigs, cymdeithasau, corau, a mwy.
- Datblygiad yr ymennydd a chreadigrwydd: Mae siarad, darllen ac ysgrifennu mewn mwy nag un iaith yn wych ar gyfer datblygiad yr ymennydd. Gall hefyd wella eich creadigrwydd a hyd yn oed eich sgiliau mathemategol.
Beth mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn ei gynnig?
Cefnogaeth academaidd
Mae'r Coleg yn darparu adnoddau a chyllid i helpu'r brifysgol i ddatblygu a chynnig cyrsiau yn y Gymraeg, gan gynnwys cefnogi creu modiwlau a rhaglenni cyfrwng Cymraeg newydd ar draws disgyblaethau amrywiol.
Mae hefyd yn darparu cyllid ar gyfer swyddi academaidd i gynyddu nifer y darlithwyr ac ymchwilwyr sy'n siarad Cymraeg.
Ysgoloriaethau a bwrsariaethau myfyrwyr
Mae'r Coleg yn cynnig ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr sy'n dewis astudio yn Gymraeg. Nod y cymhellion ariannol hyn yw annog mwy o fyfyrwyr i ddilyn addysg yn y Gymraeg a chydnabod eu hymrwymiad i ddwyieithrwydd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ysgoloriaethau'r Coleg yn Ysgoloriaethau gyfer astudio yn Gymraeg.
Adnoddau a deunyddiau ar y Porth Adnoddau
Mae Porth Adnoddau'r Coleg yn llyfrgell ar-lein sy'n llawn adnoddau addysgu digidol Cymraeg a dwyieithog ar gyfer staff a myfyrwyr.
Mae'r Porth yn cynnwys adnoddau a ddatblygwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i adnoddau gan sefydliadau y maen nhw'n gweithio gyda nhw, fel prifysgolion ledled Cymru a Llywodraeth Cymru.
Datblygiad proffesiynol
Mae'r Coleg yn cynnig cyfleoedd datblygiad proffesiynol i ddarlithwyr ac ymchwilwyr wella eu sgiliau addysgu ac ymchwil yn y Gymraeg. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni hyfforddi, gweithdai a chynadleddau sy'n canolbwyntio ar arferion gorau mewn addysg ddwyieithog.
Ymchwil ac Arloesi
Mae'r Coleg yn annog ac yn cefnogi ymchwil i addysg Gymraeg ac effaith ehangach dwyieithrwydd. Mae hyn yn cynnwys ariannu prosiectau ymchwil a meithrin cymuned o ysgolheigion sy'n ymroddedig i hyrwyddo gwybodaeth yn y meysydd hyn.
Chwilio am gwrs
Mae cymaint o wahanol gyrsiau ar gael i'w hastudio yn y Gymraeg.
Defnyddiwch Chwilotydd Cyrsiau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i weld a yw'ch cwrs a ddymunir ar gael yn Gymraeg ac a ydych yn gymwys i gael unrhyw ysgoloriaethau a ddarperir gan y Coleg ar gyfer y cwrs hwnnw.
Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae gan y Coleg Cymraeg gangen ym mhob prifysgol yng Nghymru.
Mae gwaith y canghennau yn cynnwys:
- cynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg
- darparu cymorth i fyfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg
- trefnu digwyddiadau cymdeithasol a gweithgareddau eraill
- darparu llwyfan i fyfyrwyr a staff fynegi eu barn ar faterion Cymraeg yn y Brifysgol
Ein Swyddog Cangen yw Elliw Iwan, a hi yw'r prif gyswllt ar gyfer pob myfyriwr sy'n astudio yn y Gymraeg gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae rhagor o wybodaeth am y tîm a'r strwythur cangen ar gael yma.
Cymorth a chefnogaeth
Wedi drysu? Dy ben yn troi gyda’r holl ddewis?
Gallwch ddod o hyd i'r atebion am beth yn union mae'n ei olygu i astudio yn y Gymraeg a'r cwestiynau mwyaf cyffredin ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Dewch yn aelod o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf drwy e-bost trwy lenwi'r ffurflen aelodaeth.
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Cangen Caerdydd, Elliw Iwan: