Cangen Prifysgol Caerdydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Rydyn ni'n ysbrydoli ac yn annog myfyrwyr a staff i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg a dod yn rhan o'n cymuned ddwyieithog ffyniannus.
Mae gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol gangen ym mhob prifysgol yng Nghymru. Mae'n annog myfyrwyr a staff i ymuno â phob cangen i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg a mwynhau manteision bod yn rhan o'r gymuned.
Mae ein Cangen yn gweithio gyda cholegau ac ysgolion i ddatblygu a gwella eu darpariaeth addysg Gymraeg neu ddwyieithog i fyfyrwyr. Rydyn ni hefyd yn cynnig ysgoloriaethau amrywiol, yn hyrwyddo cyfleoedd cyflogaeth, ac yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol Cymraeg, gan sicrhau y gall pawb fyw, gweithio ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Mae Cangen Caerdydd yn gweithio gyda:
- Deon y Gymraeg, Dr Angharad Naylor
- Yr Academi Gymraeg
- Catrin Edith Parry - Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr dros y Gymraeg
Manteision ymuno â Changen Caerdydd
Dewis o hyd at 65 o gyrsiau
Rydyn ni'n cynnig hyd at 65 o gyrsiau mewn ystod eang o bynciau, a addysgir yn llawn neu'n rhannol yn y Gymraeg
Cyfleoedd i chi
Fel aelod byddwch yn dysgu am y cyfleoedd i astudio neu ymgysylltu â'r Gymraeg, a manylion y digwyddiadau cymdeithasol diweddaraf
Hybu eich sgiliau iaith
Gallwn ni eich helpu i astudio ar gyfer ein Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg i wella eich hyder a'ch sgiliau ieithyddol
Datblygu sgiliau ar gyfer y gweithle
Rydyn ni am i'n graddedigion ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle a chyfrannu'n ddwyieithog at fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru
Bod wrth galon y Gymru fodern
Mae ein dinas yn gartref i Senedd Cymru, Llywodraeth Cymru, y BBC, ITV, yn ogystal â sefydliadau cenedlaethol eraill
Ehangu addysgu ac ymchwil
Rydyn ni'n gweithio gyda'n staff i gryfhau ein hunaniaeth a'n harweinyddiaeth Gymraeg
Amdanom ni
Cyfleoedd
Ein cymuned
Rydyn ni'n yn ystyried ein hunain yn sefydliad Cymreig gyda golwg fyd-eang, lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ac rhan annatod o'n gwaith.
Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg ym mhopeth a wnawn, sy'n rhan annatod o'n hunaniaeth, ein gweithrediadau, ein cymunedau, a'n bywyd bob dydd.
Cysylltu
P'un a oes gennych chi gwestiynau neu eisiau sgwrsio am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni yma i chi.
Gallwch glywed mwy am ein gweithgareddau, digwyddiadau, newyddion a mwy trwy ein dilyn ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
- Cangen Caerdydd o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol (X/Twitter)
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar X/Twitter
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar Facebook
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol/Dy Ddyfodol Di ar Instagram
- Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar YouTube
Gallwch hefyd gysylltu â'n Swyddog Cangen Caerdydd: