Clirio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol a’r UE
Mae gennym nifer o gyfleoedd clirio cyfyngedig i fyfyrwyr rhyngwladol â chymwysterau da sy'n chwilio am le ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024.
Mae ein Tîm Clirio Rhyngwladol wrth law i roi cymorth ac arweiniad ynghylch y swyddi gwag sydd ar gael drwy'r system Glirio a'r cylch ymgeisio hwyr (RPA).
Mae gennym amrywiaeth o bynciau ar gael drwy Clirio ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Sut i wneud cais
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais i Brifysgol Caerdydd drwy'r system Glirio neu os oes gennych chi gwestiynau am leoedd gwag sydd ar gael, cysylltwch â:
International clearing enquiries
Neu cwblhewch ein ffurflen ymholiad Clirio ar-lein.
Os byddwch chi’n cysylltu â ni drwy e-bost, dylech chi gynnwys:
- eich enw
- eich manylion adnabod UCAS (os oes gennych chi un)
- eich cenedligrwydd / gwlad breswyl
- eich cwrs o ddiddordeb
- unrhyw ddogfennau ategol sydd gennych chi (trawsgrifiadau, cymwysterau a chanlyniadau profion iaith Saesneg)
Mae'r Swyddfa Ryngwladol ar agor rhwng 09:00 a 17:00 (BST) rhwng dydd Llun a dydd Gwener. Os hoffech chi gysylltu â ni y tu allan i'r amseroedd hyn, anfonwch e-bost aton ni a byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted â phosibl.