Gwneud cais drwy'r broses Glirio
Os ydych wedi newid eich cynlluniau, neu wedi gwneud yn well na’r disgwyl, rydym yma i'ch helpu.
Os ydych yn gymwys ar gyfer clirio a wedi derbyn eich canlyniadau, gallwch wneud cais drwy'r broses glirio o 5 Gorffennaf.
- Myfyrwyr o'r DU: cysylltwch â'r ganolfan ymholiadau Clirio ar 0333 241 2800
- Myfyrwyr rhyngwladol ac o'r UE: cysylltwch â'r tîm Clirio Rhyngwladol
Canolfan ymholiadau
Bydd y ganolfan ymholiadau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 09:00 a 17:00.
Bydd angen i chi gael y pethau canlynol wrth law pan fyddwch yn ffonio:
- rhif eich cais UCAS
- y radd yr hoffech gyflwyno cais ar ei chyfer
- y cymwysterau sydd gennych yn ôl pwnc/gradd
Beth sy'n digwydd ar ôl i chi wneud cais?
Llongyfarchiadau mawr os ydych wedi derbyn cynnig llafar gan ein Canolfan Ymholiadau Clirio. Mae sicrhau eich lle yn syml: cyflwynwch gais Clirio ar gyfer y rhaglen radd honno drwy UCAS Hub erbyn hanner nos (BST) ar y diwrnod y gwneir eich cynnig.
Os na allwch gyflwyno eich cais Clirio o fewn yr amserlen hon am unrhyw reswm, rhowch wybod i’r Tiwtor Derbyn Myfyrwyr a gyflwynodd y cynnig cyn gynted â phosibl.
Pwy sy'n gymwys ar gyfer Clirio?
Os ydych yn bodloni un o'r canlynol, gallwch wneud cais trwy’r system glirio:
- nid oes gennych unrhyw gynigion gan brifysgolion neu golegau
- nid yw eich cynigion wedi’u cadarnhau gan nad ydych wedi bodloni'r amodau
- rydych wedi gwrthod cwrs/dyddiad dechrau/pwynt dechrau gwahanol i’r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol, neu heb ymateb iddo
- roedd eich cais yn rhy hwyr i allu cael ei ystyried cyn y system Glirio
Os yw eich canlyniadau yn well na'r disgwyl
Os yw canlyniadau eich arholiadau yn well na'r disgwyl a bod gennych chi le diamod cadarn mewn prifysgol arall, gallwch chi ryddhau eich hun i'r system Glirio drwy Hwb UCAS. Byddem yn eich argymell yn gryf eich bod yn ein ffonio i drafod eich opsiynau cyn rhyddhau eich hun er mwyn inni drafod y broses hon gyda chi.
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0019/1251613/Elin-Morris.jpg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
Wrth edrych yn ôl, byddai’n braf pe gallwn ddweud wrtha i fy hun i beidio â chynhyrfu gan fod popeth wedi dod i drefn yn y diwedd. Rydw i ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn eithriadol o hapus