Gwarant o lety
Rydym yn cynnig gwarant o lety ar gyfer y rhan fwyaf o ymgeiswyr sy'n ymuno â ni trwy'r broses glirio yn 2024.
Cewch warant o lety os ydych yn:
- derbyn cynnig drwy'r broses Glirio erbyn 19 Awst 2024
- cwrdd â'r dyddiadau cau sydd wedi'u nodi yn yr ebost sy’n cynnig lle i chi
Bydd ymgeiswyr naill ai'n cael ystafell mewn preswylfeydd prifysgol neu gall llety gael ei ddarparu a'i reoli gan ddarparwr llety preifat.
Cynigion a gafwyd erbyn 19 Awst
Os byddwch wedi cael cynnig drwy Glirio erbyn 19 Awst 2024, bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol er mwyn sicrhau'ch gwarant o lety:
- ychwanegu eich cwrs i UCAS Hub erbyn hanner nos (GMT) ar y diwrnod ar ôl i chi gael eich cynnig ar lafar
- gwneud cais am lety erbyn y dyddiad cau a gadarnhawyd i chi yn eich e-bost cynnig
Byddwch yn derbyn e-bost gan y Swyddfa Breswylfeydd erbyn 2 Medi 2024 gyda manylion am ddyraniad eich ystafell.
Os na fyddwch yn derbyn eich cynnig ystafell o fewn pum niwrnod, byddwn yn ei chynnig i fyfyriwr arall.
Cynigion a gafwyd ar ôl 19 Awst
Os cawsoch eich cynnig drwy'r broses Glirio ar ôl 19 Awst, ni allwn warantu llety ar eich cyfer yn anffodus. Gallwch fynd ati i wneud cais am lety yn y Brifysgol o hyd a byddwn yn dechrau prosesu eich cais o 2 Medi ymlaen.
Rydyn ni'n prosesu ceisiadau preswyl clirio ar sail y cyntaf i'r felin, felly gorau po gyntaf i chi gyflwyno cais er mwyn i ni allu cynnig ystafell i chi.
Os caiff ystafell ei neilltuo i chi, byddwch yn derbyn e-bost yn eich cynghori i edrych a derbyn eich cynnig ystafell ar-lein o fewn pum diwrnod.
Os na allwn ddyrannu ystafell i chi yn gyflym, byddwn yn eich diweddaru ar argaeledd ystafelloedd yn wythnosol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl os nad oes gennym leoedd ar gael ac mae angen i chi sicrhau llety yn y sector preifat.
Os nad ydych wedi sicrhau llety preifat neu brifysgol cyn yr wythnos gofrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch os oes gennym unrhyw ystafelloedd ar gael oherwydd nad yw myfyrwyr yn cyrraedd. Byddwn yn parhau i wirio argaeledd preswylfeydd prifysgol.
Gwneud cais am le mewn preswylfeydd
Bydd eich ebost sy’n cynnig lle i chi yn esbonio sut i wneud cais am eich ystafell.
Ar ôl i chi gael eich cynnig i astudio drwy UCAS byddwch yn cael negeseuon ebost gan Brifysgol Caerdydd fydd yn cynnwys:
- eich enw defnyddiwr a‘ch cyfrinair er mwyn i chi allu defnyddio ein porthol myfyrwyr (y diwrnod canlynol fel arfer)
- gwybodaeth am gyflwyno cais am le ym mhreswylfeydd y Brifysgol (fel arfer mae eich mynediad i wneyd cais ar-lein yn fyw ymhen 48 awr)
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch residences@caerdydd.ac.uk
Archwiliwch amrywiaeth eang o wybodaeth ynglŷn â llety'r Brifysgol.