Prosiectau ymgysylltu peilot
Hoffech chi ymgysylltu gyda chymunedau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd?
Diolch am eich diddordeb yn y cynllun. Nodwch fod ceisiadau ar gyfer rownd 2 o'r llwybr ariannol Prosiect Ymgysylltu Peilot bellach wedi cau.
Mae Cyfnewid Dinas-Rhanbarth wedi lansio cynllun gwobrywo newydd i gefnogi gwaith ymgysylltu'r Brifysgol yng Nghaerdydd a'r ardal o'i chwmpas (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd).
Mae hyd at £5,000 y prosiect ar gael i gefnogi prosiectau peilot sy'n ymgysylltu â chymunedau, awdurdodau neu gwmnïau lleol.
Cynhaliwyd y rownd cyntaf o brosiectau yn ystod 2016. Roedd tair prosiect ar ddeg yn llwyddianus mewn sicrhau cyllid.
Yr her
Rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer gweithgareddau gan bartneriaid yn y meysydd eang canlynol:
- Prosiectau sy'n cryfhau iechyd, lles a/neu gynhwysiad yn ein cymunedau
- Prosiectau sy'n gweithio gyda chymunedau a/neu fusnesau i'w helpu i addasu i'r sialensau maent yn eu hwynebu
- Prosiectau sy'n archwilio dulliau newydd o drosglwyddo gwasanaethau cyhoeddus
- Prosiectau sy'n gweithio i gau'r bylchau mewn cyraeddiadau addysgiadol (yn cynnwys cydweithio gyda sefydliadau sy'n cefnogi'r rhai hynny nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant).
- Prosiectau sy'n anelu at gryfhau economïau Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Prosiectau sy'n gwella ansawdd a'n dealltwriaeth o'n hetifeddiaeth gyffredin.
Ceisiadau
Mae ceisiadau ar gyfer rownd dau o'r llwybr ariannol Prosiect Ymgysylltu Peilot bellach wedi cau.
Cyn i chi wneud cais, darllenwch y canllawiau, meini prawf dethol ac anghenion y prosiectau.
PEP 2 Application Form (Welsh)
Ffurflen gais Prosiectau Ymgysylltu Peilot.
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy ebostio web@caerdydd.ac.uk. Cynhwyswch yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat sydd ei angen arnoch.
Ymholiadau
Os hoffech chi drafod hwn ymhellach, cysylltwch â: cityregionexchange@caerdydd.ac.uk.