Amdanom ni
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu dwy ddinas-ranbarth newydd yng Nghymru. Mae un yn cynnwys Caerdydd a de-ddwyrain Cymru, sef Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Nodir, mae'r fideo isod ar gael yn Saesneg yn unig.
Dinas-Ranbarth yw’r enw a roddir ar y rhanbarth economaidd gweithredol o amgylch y ddinas – economi lleol y ddinas a’i chefnwlad.
Bwriad Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yw annog y deg awdurdod lleol a chwaraewyr allweddol eraill o fewn ei ffiniau i gydweithio ar brosiectau a chynlluniau ar gyfer yr ardal. Y gobaith yw y bydd hyn yn cyfoethogi’r potensial ar gyfer datblygu economaidd llwyddiannus, a chreu cyfleoedd gwaith yn yr ardal. Mae hyn yn dilyn profiad dinas-ranbarthau eraill ledled y DU a thu hwnt sydd wedi adeiladu ar y cyfleoedd a’r potensial a ddaw yn sgîl rhwydweithiau a chynlluniau metropolitanaidd cryf.
Bwriad y prosiect ymgysylltu dinas-ranbarth, sef y Gyfnewidfa Dinas-Ranbarth, yw astudio a chymryd rhan yn y datblygiad parhaus hwn. Bydd y prosiect yn ymgysylltu â’r cymunedau sy’n rhan hanfodol o’r economi lleol, ynghyd â'r rheini sy’n helpu i lunio datblygiad y dinas-ranbarth. Mae’r rhain yn cynnwys cymunedau o lunwyr polisi, fel yr amrywiol lywodraethau lleol a Bwrdd newydd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, yn ogystal â busnesau a chyflogwyr a’u grwpiau cynrychioliadol.
Bydd hefyd yn ceisio ymgysylltu â grwpiau sy’n cynrychioli rhai o’r cymunedau gwahanol mewn amrywiol leoliadau, sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.