Symposiwm Chris McGuigan
Mae Symposiwm Chris McGuigan yn gyfle i gofio’r Athro McGuigan a dathlu gwaith arloesol ledled y byd ym maes darganfod cyffuriau.
Cynhelir y symposiwm dwyflynyddol gan yr Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol ym mis Medi 2021, 2023, 2025 a 2027.
Cyhoeddir tri enillydd Gwobrau Chris McGuigan yn y symposiwm gyda'r gwobrau’n cael eu dyfarnu gan ein noddwr hael, Dr Geoff Henson.
Gwahoddir enillwyr Gwobrau Chris McGuigan i roi darlith am eu hymchwil a'u gwaith yn y symposiwm.
Rhagor am enillwyr y gwobrau cyntaf yn Symposiwm Chris McGuigan 2019.
Cysylltu
Cofrestrwch eich diddordeb mewn mynychu Symposiwm Chris McGuigan 2023 trwy ebost.
Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae'n ofynnol i'r Brifysgol nodi sut mae data personol yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio. Defnyddir rhybudd diogelu data neu breifatrwydd i adael i bobl wybod sut rydym yn cydymffurfio â diogelu data a'r hyn y gallant ddisgwyl digwydd i unrhyw ddata y maent yn ei gyflenwi. Mae'r rhybudd hwn yn nodi sut mae'r Brifysgol yn delio â gwybodaeth bersonol pobl.