Ynglŷn â Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau
Mae Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau yn dathlu etifeddiaeth, rhagoriaeth ac arloesedd yr Athro Chris McGuigan mewn gwyddoniaeth darganfod cyffuriau ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Gwobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau yn cynnwys tair gwobr a ddyfernir bob dwy flynedd. Cânt eu cyflwyno yn Symposiwm Chris McGuigan ym mis Medi 2021, 2023, 2025 a 2027.
Gwobr Traethawd PhD Eithriadol McGuigan
Dyfarniad o £1,000 i gydnabod y traethawd ymchwil gorau sy'n gysylltiedig â darparu cyffuriau gan ddoethur graddedig o Brifysgol Caerdydd.
Dylai'r PhD fod wedi'i ddyfarnu'n llwyddiannus dim cynharach na 24 mis cyn y dyddiad cau ar gyfer enwebu.
Gwobr McGuigan i U35 Darganfod Cyffuriau Seren
Rhoddir dyfarniad o £4,000 i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa (dan 35) sydd wedi cael effaith sylweddol, gwreiddiol ac a gydnabyddir yn rhyngwladol yn y gwyddorau darganfod cyffuriau.
Dylai enwebeion fod wedi'u cyflogi gan brifysgol ar adeg yr enwebiad.
Gwobr McGuigan am Waith Nodedig mewn Darganfod Cyffuriau
Dyfarniad o £10,000 i gydnabod uwch-ymchwilydd (yn y byd academaidd neu ddiwydiant) sydd ag enw da yn rhyngwladol a hanes profedig o arwain wrth:
- gychwyn neu ddatblygu egwyddorion gwyddonol newydd neu fframweithiau sydd wedi trawsffurfio proses ddatblygu meddyginiaethau dynol
- trosi darganfyddiad cyffuriau i ddatblygiad meddyginiaethau dynol.
Darganfod rhagor am enillwyr cyntaf Gwobrau Chris McGuigan yn 2019.
Cefnogi ein gwaith
Mae Gwobrau a Symposiwm Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau yn bosibl gyda diolch i rodd hael Dr Geoff Henson er cof am ei ffrind a'i gydweithiwr, yr Athro Chris McGuigan.
Os hoffech gefnogi ein gwaith i ddathlu arloeswyr darganfod cyffuriau ac etifeddiaeth yr Athro Chris McGuigan, medrwch wneud rhodd i'r Brifysgol gan nodi eich dymuniad i gyfrannu at Wobrau Chris McGuigan mewn Darganfod Cyffuriau.
Gallwch gyflwyno rhodd rheolaidd drwy gerdyn credyd neu drwy ddebyd uniongyrchol. Gallwch roi un rhodd unigol drwy gerdyn credyd/debyd hefyd.