Diwylliant ymchwil
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Mae ein diwylliant ymchwil yn cydweithio’n weithredol ac yn flaengar, ac yn cyfrannu at ymchwil wyddonol, yr economi a chymdeithas.
Cydweithio ar ymchwil
Rydym yn cydnabod ein cyfrifoldeb i hybu cydweithio ar draws yr holl ddisgyblaethau gwyddonol. Rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd trefniadau cydweithio, rhwydweithiau a phartneriaethau. Rydym wedi bod yn gyd-awduron ar fwy na 1,000 o gyhoeddiadau gyda chydweithwyr allanol o sefydliadau, cyfleusterau a diwydiant, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Rydym yn cydweithio’n eang o fewn yr Ysgol ac yn elwa yn yr un modd o ryngweithio eang ar draws Ysgolion Academaidd eraill y Brifysgol, gan gynnwys Fferylliaeth a’r Gwyddorau Fferyllol, y Biowyddorau, Deintyddiaeth, Ffiseg a Seryddiaeth, Meddygaeth, a Pheirianneg.
Gan adeiladu ar hyn, rydym yn gweithio ar y cyd â phrifysgolion blaenllaw eraill yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, ac mae gennym gysylltiadau cryf a phellgyrhaeddol, sy’n cael effaith ar draws y byd, â busnesau yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Mae rhwydwaith sefydliadau ymchwil y Brifysgol yn gweithredu fel canolbwynt ar gyfer ymchwil ryngddisgyblaethol yn ein meysydd allweddol o gryfder. Er enghraifft, mae ein Sefydliad Ymchwil Dŵr yn cyfuno bioleg, ecoleg, peirianneg, gwyddor cymdeithasol, a rhanddeiliaid allanol (Dŵr Cymru), gyda phrosiectau a arweinir gan gemeg ar drin dŵr.
Mae ein diwylliant i’w weld hefyd yng Nghanolfan Catalysis y Deyrnas Unedig, lle mae sawl aelod o’r Ysgol yn ymwneud â 45 o sefydliadau partner, gan greu prosiectau ar y cyd â sawl prifysgol a phartner diwydiannol. Rydym yn dal yn un o’r prif chwaraewyr yn y fenter hon.
Cymdeithas a gwleidyddiaeth
Y tu hwnt i feysydd academaidd a masnachol, creir cysylltiadau mwy pellgyrhaeddol â chynulleidfaoedd allweddol mewn lleoliadau cymdeithasol a gwleidyddol trwy ein cyfranogiad mewn sefydliadau gwleidyddol (megisGwyddoniaeth a’r Cynulliad).
Mae aelodau o’r Ysgol hefyd wedi cyfranogi yng nghyfarfodydd datblygu polisi sefydliadau allweddol megis yr UE, ar draws ystod eang o feysydd gwyddonol, gan gynnwys yr economi gylchol a throsi CO2.
Mae ein Hysgol yn sicrhau ein bod yn cyfrannu at bolisi llywodraeth Cymru, y Deyrnas Unedig ac Ewrop lle bo cyfleoedd yn codi i wneud hynny.
Dyfarniadau a chydnabyddiaeth
Mae cyflawniadau ymchwil ein Hysgol wedi cael eu cydnabod trwy ddyfarniadau, gwobrau, anrhydeddau, bri, a dangosyddion parch, gan gynnwys penodiadau i rolau arweiniol yn y gymuned ymchwil (yn genedlaethol ac yn rhyngwladol), cymdeithasau dysgedig a chyrff proffesiynol.
Mae’r dyfarniadau hyn wedi cael eu rhoi i staff ar draws y sbectrwm cyfnodau gyrfa, gan gynnwys:
- ethol i academïau rhyngwladol/cenedlaethol a chymdeithasau dysgedig
- gwobrau, dyfarniadau ac anrhydeddau
- apwyntio yn athrawon gwadd mewn prifysgolion tramor
- penodi i fyrddau ymgynghorol a phwyllgorau rhyngwladol
- rolau arweiniol mewn cymdeithasau dysgedig, ar gyrff proffesiynol, ym mhwyllgorau’r llywodraeth ac ar gynghorau ymchwil
- cadeirio cynadleddau
- rolau golygyddol
- penodiadau brenhinol.