Glanhau’r broses o gynhyrchu PVC
Mae'r Athro Graham Hutchings o'r Ysgol Cemeg wedi bod yn gweithio tuag at leihau’r peryglon amgylcheddol ynghlwm wrth weithgynhyrchu polyfinyl clorid (PVC). Mae canlyniad ei waith wedi ei gwneud hi'n bosibl cael gwared ar fercwri sy’n gatalydd wrth weithgynhyrchu'r cemegau y mae eu hangen cyn cynhyrchu PVC. Dyma'r tro cyntaf ers mwy na 50 mlynedd i ddull llunio catalyddion gael ei ailwampio’n llwyr er mwyn cynhyrchu nwydd cemegol.
Ers 2007, bu'r cwmni cemegol rhyngwladol Johnson Matthey PLC yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu'r gyfres newydd hon o gatalyddion sy’n seiliedig ar aur i gynhyrchu finyl clorid monomer (VCM). Ar ôl mwy na 10 mlynedd o ymchwil a datblygu a gostiodd filiynau o bunnoedd, datblygodd y cwmni PRICAT™ MFC (sef Catalydd Difercwri).
Lleihau effaith amgylcheddol gweithgynhyrchu PVC
Cynhyrchir mwy na 45 miliwn tunnell fetrig o resin PVC yn flynyddol ledled y byd. Gan fod gweithgynhyrchu’n digwydd ar y raddfa hon mor eang, mae'r peryglon cysylltiedig i’r amgylchedd ac iechyd pobl yn enfawr hefyd. Yn achos gweithgynhyrchu PVC, un o'r prif risgiau amgylcheddol yw defnyddio catalyddion sy'n seiliedig ar fercwri wrth gynhyrchu’r moleciwlau a gynhyrchid cyn hyn, sef monomerau. Mae’r 128 o lofnodwyr confensiwn Minamata ar Fercwri wedi ymrwymo i gael gwared yn raddol ar y defnydd ohono mewn cynnyrch, prosesau a diwydiannau, gan agor marchnad i ddatblygu dewisiadau eraill. Mae ymchwil yr Athro Hutchings i ddefnyddio aur yn ei gyflwr cationig (â gwefr bositif) yn gatalydd arall wrth greu monomerau finyl clorid (VCM) wedi gwella eu potensial yn ddirfawr o ran eu defnyddio’n fasnachol, a hynny yn sgîl catalydd arall sy'n seiliedig ar fercwri.
Defnyddio aur yn lle mercwri
Dangosodd ymchwil yr Athro Hutchings y gallu enfawr sydd gan aur i gataleiddio’r broses o weithgynhyrchu VCM. Fodd bynnag, roedd pris uchel aur yn golygu bod angen gostwng lefel yr aur er mwyn i'r catalydd arfaethedig fod yn bosibilrwydd yn fasnachol. Oherwydd hanes yr Athro Hutchings ym maes creu catalyddion sy’n seiliedig ar aur, cysylltodd Johnson Matthey â’r Brifysgol i gymhwyso ei ymchwil i fasnacheiddio'r broses hon.
Dechreuodd y prosiect, a ariannwyd gan Johnson Matthey a Chyngor Aur y Byd, drwy ymchwilio i’r ffordd roedd gwanhau'r aur yn effeithio ar effeithiolrwydd aur i fod yn gatalydd yn y broses hon. Canfu tîm Caerdydd fod gwanhau'r aur yn arwain at weithgarwch catalytig anghynaliadwy o isel ym mhob achos. Dangosodd hefyd nad oedd y broses o gymysgu aur â metelau eraill yn cynhyrchu catalyddion hyfyw.
Dangosodd yr astudiaethau hyn fod catalyddion ag aur yn unig yn well na chyfansoddion cymysg eraill, gan gynnwys catalyddion â mathau cymysg o fetel. Roedd hefyd yn peri i’r tîm ddeall yn well y mecanwaith adweithio y gwnaethon nhw seilio eu catalyddion newydd arno. Ar ben hynny, dangosodd bwysigrwydd manteisio i’r eithaf ar wasgaru aur i gynyddu arwynebedd y catalydd aur y gellir ei ddefnyddio.
Gwneud y broses yn ddiogel ac yn gost-effeithiol
Yn seiliedig ar yr ymchwil, datblygodd Johnson Matthey system gatalytig sy’n cynnwys craidd carbon sydd wedi'i orchuddio mewn haen denau o aur o'r enw PRICAT™ MFC (sef Catalydd Difercwri). Arweiniodd hyn at gatalydd â chymhareb aur ag arwynebedd mawr o’i gymharu â màs. Pan gafodd ei brofi mewn treialon maint, canfuwyd bod y catalydd aur tra gwasgaredig newydd, a gafodd ei ddatblygu i gymryd lle’r catalydd clorid mercwrig, sef safon y diwydiant yn ystod y 60 mlynedd diwethaf, yn llawer gwell.
Y cam nesaf yn y broses ddatblygu oedd datblygu dull mwy diogel a mwy hyfyw yn fasnachol i gynhyrchu’r catalydd. Paratowyd y dull gwreiddiol a’r catalyddion aur â chymorth carbon drwy adneuo aur gan ddefnyddio'r aqua regia sy’n asid anhygoel o gryf. Goresgynwyd yr her hon drwy ddatblygu llwybr dŵr newydd sy'n defnyddio cymhlygion sylffwr aur sydd â moleciwlau bach. Astudiwyd canlyniadau'r broses hon ymhellach i gadarnhau natur safle gweithredol y catalyddion. Roedd hyn yn golygu bod modd deall hyn ar y lefel atomig, ac felly roedd modd datblygu'r catalyddion ymhellach at ddibenion masnacheiddio.
Roedd ymchwil Prifysgol Caerdydd yn ganolog o ran deall sut mae catalyddion aur yn gweithio ac mae wedi helpu i'w dylunio, gan gynyddu’n fawr eu potensial i’w hecsbloetio’n fasnachol drwy fodloni'r mathau allweddol o arloesi y mae eu hangen i ddefnyddio ymchwil ym maes gweithgynhyrchu PVC.
Yr effeithiau byd-eang
Tsieina yw cynhyrchydd PVC mwyaf y byd, ac mae ei gynhyrchu’n ddibynnol ar y monomer finyl clorid a ddefnyddid cyn hyn. Yn nodweddiadol, mae PVC a gynhyrchir mewn mannau eraill yn defnyddio VCM sy’n seiliedig ar olew neu nwy naturiol. Fodd bynnag, mae Tsieina yn dibynnu ar gronfeydd glo i gynhyrchu VCM. Oherwydd y penderfyniad hwn, mae'n rhaid i'w gweithgynhyrchwyr ddefnyddio catalyddion sy'n seiliedig ar fercwri. Mae hyn yn golygu mai Tsieina yw defnyddiwr mercwri mwyaf y byd, yn bennaf at ddibenion cynhyrchu VCM (mwy na 800 tunnell y flwyddyn). Yn sgîl ymchwil Prifysgol Caerdydd, datblygwyd catalydd arall yn seiliedig ar aur at ddibenion cynhyrchu VCM. Mae hyn yn cymryd lle'r defnydd o fercwri wrth gynhyrchu VCM yn Tsieina a chydnabuwyd hyn yn sgîl y nifer fawr o wobrau rhyngwladol.
Yn 2014, cydnabu Johnson Matthey werth sylweddol y broses newydd hon. Prynon nhw’r hawl i fod yn berchen ar batentau’r catalyddion, ond ar ben hynny aethon nhw ati i sicrhau technoleg y prosesau sydd eu hangen i adeiladu ffatrïoedd VCM. Yn dilyn hyn, roedden nhw’n gallu cyflwyno'r unig broses VCM difercwri y gellir ei thrwyddedu.
Yn 2015, buddsoddodd Johnson Matthey mewn ffatri weithgynhyrchu newydd yn Shanghai i gynhyrchu'r catalydd newydd ar raddfa ddiwydiannol, gan olygu mai'r catalydd bellach fydd "un o ddatblygiadau mawr Johnson Matthey yn ystod y 10 mlynedd nesaf". Bwriad y ffatri yw bodloni 20-30% o alw VCM blynyddol Tsieina, ac mae Johnson Matthey yn rhagweld y bydd "rhan sylweddol o farchnad Tsieina yn defnyddio PRICAT® MFC" ymhen dwy flynedd.
Gwobrau yn sgîl ein hymchwil
- Dyfarnwyd Gwobr Cynnyrch Arloesol y Flwyddyn yng Ngwobrau Byd-eang 2015 Sefydliad y Peirianwyr Cemegol (IChemE) i Johnson Matthey a Phrifysgol Caerdydd
- Gwobr Arloesedd GSK yng Ngwobrau Diwydiant Cemegol 2016 er masnacheiddio llwyddiannus y PRICAT™ MFC at ddibenion cynhyrchu VCM sy’n ddifercwri
- Gwobr Gweithio ar y Cyd rhwng byd Diwydiant a’r byd Academaidd yng ngwobrau'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol 2017 at ddibenion datblygu'r catalydd difercwri at ddibenion cynhyrchu VCM.
Dyma’r tîm
Yr Athro Graham Hutchings
- hutch@cardiff.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4059