Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau ymchwil yn cynnig amgylchedd gwych ar gyfer rhagoriaeth ymchwil.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi buddsoddi dros £20 miliwn mewn cemeg, ochr yn ochr â chefnogaeth helaeth gan gynghorau ymchwil a’r diwydiant.
Mae gennym yr isadeiledd a’r offer dadansoddi y byddech am eu cael mewn adran cemeg fodern a deinamig sy’n ymdrin â phob cangen cemeg craidd a rhyngddisgyblaethol.
O’r technegau dadansoddi diweddaraf i alluoedd gweithdy gwyddonol arbenigol, mae'r cyfleusterau hyn yn sail i'n gweithgareddau addysgu ac ymchwil.
Cartref newydd
Mae Prif Adeilad eiconig Prifysgol Caerdydd wedi bod yn gartref i’r Ysgol ers 1927, ac mae isadeiledd ein Hysgol wedi’i drawsnewid yn sylweddol. Mae Sefydliad Catalysis Caerdydd yn symud i adeilad y Ganolfan Ymchwil Drosi (TRH) gerllaw ar Gampws Arloesedd Caerdydd, a gwblhawyd yn haf 2022.
Mae’r Ganolfan Ymchwil Drosi yn dod ag ymchwilwyr catalysis at ei gilydd mewn labordai pwrpasol er mwyn ysgogi ymchwil ryngddisgyblaethol, gan gynnwys y grwpiau modelu cyfrifiadurol.
State-of-the-art analytical equipment and experts in data interpretation are available to support your needs.