Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil

Mae ein harbenigedd ymchwil, cyfleusterau safonol a'n partneriaethau strategol yn ein galluogi ni i daclo sialensiau pwysig y 21g.

Rydym yn canolbwyntio ar y themâu allweddol canlynol sydd yn cyd-fynd gyda blaenoriaethau ein cyngor ymchwil ac yn helpu ein hymchwil i gael effaith byd-eang:

Mae’r adrannau hefyd yn helpu maethu cydweithredu ymchwil ar raddfa rhyngwladol, gan ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda nifer o brifysgolion arweiniol, sefydliadau ymchwil a diwydiannau byd-eang.

Sefydliad Catalysis Caerdydd

Sefydliad pellach sy'n draws-doriadol, ac wedi ei fewnblannu o fewn yr Ysgol Cemeg, yw Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI) ag arweiniwyd gan yr Athro G.J. Hutchings FRS. Sefydlwyd yn 2008 fel canolbwynt i ymchwil ar draws y gwyddorau catalytig, (heterogenaidd, homogenaidd a chatalysis biolegol) a bellach mae'n un o Sefydliadau Ymchwil y Brifysgol (URI) nodedig. Mae aelodau o'r CCI yn perthyn i'r tair Adran Ymchwil.

Y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol mewn Catalysis (CDT)

Sefydlwyd y Ganolfan EPSRC ar gyfer Hyfforddiant Doethurol mewn Catalysis (CDT), a gynhelir gan Bath, Bryste a Chaerdydd, i ddarparu hyfforddiant PhD ar draws catalysis heterogenaidd a chydryw yn ogystal â pheirianneg adwaith. Bydd y CDT yn caniatáu i ôl-raddedigion ddatblygu gwybodaeth ddatblygedig o ddisgyblaethau catalysis traddodiadol a rhai sy’n datblygu, dealltwriaeth o'r diwydiant ac o gyd-destunau byd-eang, yn ogystal â sgiliau ymchwil a phroffesiynol. Bydd graddedigion o’r CDT yn gyrru a thyfu’r sector catalysis yn y DU, yn ogystal â chefnogi anghenion diwydiant y DU.

Ein cydweithrediadau

Rydym yn cydweithio'n eang o fewn yr Ysgol a gydag Ysgolion Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol, Biowyddorau, Deintyddiaeth, Ffiseg a Seryddiaeth, Meddygaeth, Mathemateg a Pheirianneg y Brifysgol. Rydym hefyd yn cydweithio gyda phrifysgolion blaenllaw eraill yn y DU ac yn rhyngwladol ar draws y byd. Mae ein cydweithrediadau o fewn y DU a busnesau rhyngwladol yn bellgyrhaeddol ac yn cael effaith yn fyd-eang.

Ein cyfleusterau

Yn dilyn buddsoddiad £20 miliwn mewn Cemeg gan Brifysgol Caerdydd yn y blynyddoedd diwethaf, yn ogystal â chefnogaeth sylweddol gan ein cynghorau ymchwil a'n diwydiant, mae ein cyfleusterau ymchwil yn darparu amgylchfyd ar gyfer rhagoriaeth ymchwil. Mae gennym offer analytig a'r isadeiledd disgwyliedig mewn Ysgol Gemeg fodern a deinamig