Ewch i’r prif gynnwys

Cyfleoedd allgyrsiol

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

Rydym yn eich annog i rannu eich diddordeb mewn gwyddoniaeth a’ch brwdfrydedd amdani, yn ogystal â datblygu sgiliau ymgysylltu â’r cyhoedd a sgiliau estyn allan.

Digwyddiadau ymgysylltu

Mae astudio gyda ni’n rhoi cyfle gwerthfawr i chi fod yn rhan o’n gwaith ymgysylltu â’r cyhoedd a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich dewis o yrfa, p’un a oes gennych ddiddordeb mewn addysgu, bod yn entrepreneur neu wneud ymchwil. Gallai hyn gynnwys rhoi anerchiadau cyhoeddus, datblygu adnoddau addysgol ar gyfer athrawon, gweithio gydag ysgolion neu geisio mewnbwn cyhoeddus ar gyfer gwaith ymchwil.

Drwy Gynllun Gwobrau Caerdydd, rydym yn cydnabod gweithgareddau allgyrsiol ac yn canolbwyntio ar ddatblygiad proffesiynol myfyrwyr.

Llysgenhadon STEM

Fel Llysgennad STEM, gallwch ysbrydoli pobl ifanc ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg. Fel rhan o'r cynllun hwn, byddwch yn ymuno â rhwydwaith cenedlaethol o gyfathrebwyr â’r un meddylfryd ac yn cael gwybod am ddigwyddiadau gyrfaoedd a digwyddiadau estyn allan yn agos atoch chi.

Gwirfoddoli

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i wirfoddoli gan ein bod yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud hynny yn y byd modern.

Edrychwch ar fyfyrwyr Cemeg y Brifysgol yn gwirfoddoli yn Tanzania.

Diwrnodau Agored a digwyddiadau eraill

Mae eich annog i wirfoddoli yn ein Diwrnodau Agored yn rhoi’r cyfle i chi drafod gwyddoniaeth gyda’r cyhoedd ac ysbrydoli pobl ifanc i gael gwybod rhagor am gemeg.

Rydym hefyd yn rhoi’r cyfle i chi gymryd rhan mewn ffeiriau a gwyliau gwyddoniaeth fel Arddangosfa Wyddoniaeth Haf y Gymdeithas Frenhinol, New Scientist Live, Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd a digwyddiadau yn Amgueddfa Cymru, yn ogystal â mynd â gwyddoniaeth allan i’r strydoedd fel rhan o’n rhaglen ‘Bysgio Gwyddoniaeth’ arloesol.