Israddedig
Mae ein cyrsiau wedi eu dylunio i'ch galluogi chi i gyrraedd eich llawn botensial.
Rydym yn cyflawni hyn trwy gyfuno dysgu rhagorol, cyfleusterau a chefnogaeth sy'n dileu rhwystrau rhag dysgu. Mae cyrsiau wedi'u hymestyn dros ddau dymor ac yn dilyn dull modiwlaidd sy'n cynnwys elfennau o waith ymarferol, gweithdai a thiwtorialau.
Mae ein holl raglenni gradd israddedig yn achrededig drwy'r Gymdeithas Cemeg Frenhinol.
We combine excellent teaching, facilities and support to remove barriers from learning. Each course is spread over two semesters and follows a modular format which includes elements of practical work, workshops and tutorials.
Am y ddwy flynedd gyntaf, ceir elfennau cyffredin rhwng deunydd a addysgir yn ein graddau MChem a BSc, sy'n cynnig y cyfle mwyaf i symud rhwng cynlluniau (yn amodol ar berfformiad academaidd).
Mae'r ddau gynllun yn cynnig y cyfle i weithio mewn diwydiant. Mae'r cynllun MChem yn ogystal yn cynnwys y cyfle i dreulio blwyddyn mewn labordy ymchwil mewn prifysgol dramor.
Dysgwch am ein cyrsiau is-raddedig gyda staff a myfyrwyr yr Ysgol yn y fideo Saesneg isod:
Ces i brofiad o weithio yn y diwydiant ei hun. Roedd hyn yn golygu pan wnes i gwblhau fy astudiaethau yng Nghaerdydd, doedd dim rhaid i fi fynd yn rhy bell i ddod o hyd i fy nghyflogaeth gyntaf.
Mae manylion llawn ar gyfer ein cyrsiau BSc a MChem, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn ein chwiliwr cyrsiau.