Ymchwil ôl-raddedig
Mae ein graddau ymchwil yn rhoi'r cyfle i chi archwilio testun arloesol ymhlith ymchwilwyr blaenllaw gyda chyfleusterau o'r radd uchaf.
Bob blwyddyn rydym yn recriwtio tua 40 o fyfyrwyr ar gyfer graddau uwch (PhD a MPhil). Mae ein graddau ôl-raddedig wedi'u seilio ar ymchwil annibynnol llawn amser gyda goruchwyliwr academaidd i'ch harwain i ddarganfod agweddau newydd a chyffrous yn y byd cemeg.
Cyrsiau PhD a MPhil sydd ar gael (trwy gyfrwng y Saesneg yn unig)
- Catalysis in the Cardiff Catalysis Institute (PhD/MPhil)
- Chemical Biology (PhD/MPhil)
- Chemistry (PhD/MPhil)
- Inorganic Chemistry (PhD/MPhil)
- Organic Synthesis (PhD/MPhil)
- Physical Organic Chemistry (PhD/MPhil)
- Solid State Materials (PhD/MPhil)
- Theoretical and Computational Chemistry (PhD/MPhil)
Rydym hefyd yn cynnig graddau ymchwil PhD a MPhil mewn amrywiaeth o feysydd arall o Gemeg.
Ysgoloriaethau
Rydym yn croesawu ceisiadau ar gyfer astudiaethau PhD gan fyfyrwyr sy'n dymuno gwneud cais ar gyfer Ysgoloriaethau'r Gymanwlad neu Arian Cyngor Ysgoloriaeth Tsiena.
Cefnogaeth i ôl-raddedigion
Rydym yn eich mentora a'ch cefnogi mewn sawl ffordd.
- Mae gennych un neu fwy o oruchwylwyr a phanel adolygu o ddau academydd annibynnol.
- Mae pob myfyriwr yn elwa ymhellach o gyrsiau hyfforddi niferus gan yr ysgol, yr Academi Ddoethurol a chonsortiwm prifysgolion GW4.
- Mae cynrychiolwyr myfyrwyr enwebedig yn cymryd rhan mewn Fforwm Ymchwil Ôl-raddedig chwarterol, ac yn dal aelodaeth ar bwyllgorau ysgol allweddol.
- Anogir cyflwyno adborth cyfrinachol, gan ganiatáu i ni weithredu'n ffurfiol ar faterion.
- Rydym yn cynnal arolwg ymadael sy'n ein galluogi i fyfyrio ar eich profiad a gwella.
- Mae gennych gyfle i ddatblygu sgiliau academaidd pellach trwy gynorthwyo mewn gweithdai israddedig a dosbarthiadau labordy.
Ymholiadau
Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredinol at:
Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig - Cemeg
Gallwch gyfeirio ymholiadau anffurfiol trwy gysylltu gydag unrhyw aelod o staff academaidd sydd yn gweithio mewn maes ymchwil sydd o ddiddordeb i chi.
Mae manylion llawn o raddau PhD a MPhil, yn cynnwys sut i wneud cais, ar gael yn y chwiliwr cwrs.