Myfyrwyr rhyngwladol

Mae gennym gymuned ryngwladol ffyniannus sy'n integreiddio'n ddidrafferth gyda myfyrwyr o'r DU.
Mae astudio cemeg yma yn rhoi'r cyfle i chi ddatblygu eich damcaniaeth gemeg graidd a sgiliau labordy ymarferol mewn amgylchedd ffyniannus. Mae hefyd yn eich galluogi i gymysgu gydag ystod amrywiol o fyfyrwyr o'ch gwlad eich hun ac o wledydd eraill.
Daw ein myfyrwyr o nifer o wledydd bob rhan o'r byd ac maent yn cynrychioli amrywiaeth eang o genhedloedd a diwylliannau.
Croesawn geisiadau am gyrsiau israddedig ac ôl-raddedig felly ewch amdani a gwnewch gais am ein cyrsiau i ddod yn rhan o'n hysgol amrywiol, ddeinamig a chyffrous.
Mae ein cyrsiau yn cyfuno rhagoriaeth addysgu, ymchwil flaengar a chysylltiadau diwydiannol helaeth i greu cyfleoedd dysgu rhagorol.