Cyfleusterau addysgu a chefnogaeth
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2637056/Untitled-design-3.png?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Rydym wedi'n lleoli y tu mewn i'r Prif Adeilad, adeilad hanesyddol sy'n ganolog i gyfleusterau eraill y Brifysgol a chanol dinas Caerdydd.
Mae’r adeilad yn un digon traddodiadol ar yr olwg gyntaf, ond mae’r gofod addysgu y tu mewn ar flaen y gad o ran ei fodernedd. Mae llawer o’n gofodau dysgu wedi’u trawsnewid i sicrhau eu bod yn addas ar gyfer astudiaeth fodern, gan gynnig amgylchedd dysgu mawr ac atyniadol i bawb.
Y brif lyfrgell ar gyfer myfyrwyr cemeg yw’r Llyfrgell Wyddoniaeth, gyferbyn â’r Ysgol yn y Prif Adeilad. Mae’n cynnwys llawer o adnoddau ffisegol, fel llyfrau a chyfnodolion, ond mae’n cynnig ystod eang o ddeunyddiau electronig sydd ar gael ar-lein hefyd.
Mae ystafelloedd cyfrifiadurol ac ystafelloedd dysgu mewn grŵp wedi’u lleoli yn yr Ysgol, yn y Llyfrgell Wyddoniaeth ac ar draws campws y Brifysgol er mwyn hwyluso astudio mewn grwpiau ac yn annibynnol.
Barn ein myfyrwyr
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/1279637/DefaultLogo.png?w=100&h=100&auto=compress&crop=faces&fit=crop)
The University buildings are grand and inspire learning. I personally love the location of the School of Chemistry, situated in the Main Building of the University and complemented with a superb Science Library. The course is challenging and a good amount of time is spent in lectures, labs, tutorials and workshops. So far I’ve developed many skills and attributes not only as a future chemist but also as candidate for graduate employment in an increasingly competitive market.
Cyfleusterau ymchwil
Gyda buddsoddiad o dros £14 miliwn yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein cyfleusterau rhagorol yn galluogi ymchwil ymhob agwedd o gemeg craidd a rhyngddisgyblaethol.
Rydym yn gartref i Sefydliad Catalysis Caerdydd (CCI), menter a gefnogwyd gan y Brifysgol i sefydlu canolfan rhagoriaeth ar gyfer catalysis o fewn y DU.
Mae gofod labordy'r Ysgol hefyd wedi ei adnewyddu'n ddiweddar i greu amgylchfyd ymchwil ffyniannus mewn Bioleg Gemegol, Cemeg Strwythurol, Nanowyddoniaeth, Catalysis, Cemeg Ffisegol ac Organig.
Ewch am daith o gwmpas ein cyfleusterau Cemeg a thu hwnt gyda’n taith 360.