Datblygu a chefnogi staff
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Rydym yn cefnogi ein staff yn gryf i gyflawni hyd eithaf eu potensial, ac yn annog pob aelod o staff, beth bynnag yw eu gradd neu eu llwybr gyrfa - i fanteisio ar ystod eang o hyfforddiant ar gyfer eu datblygiad proffesiynol a phersonol.
Rydym ni’n rhedeg sawl cynllun i hybu datblygiad staff:
- Cwrs hyfforddi gorfodol ar Arwain a Rheoli ar gyfer staff uwch (gan gynnwys Athrawon ac uwch reolwyr llinell), y mae holl staff uwch yr Ysgol yn ei gwblhau.
- Rhaglen hyfforddi Ymarfer Academaidd ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, sy’n arwain at Gymrodoriaeth yr Academi Addysg Uwch (FHEA).
- Mae ein holl staff yn cael adolygiad datblygu perfformiad (ADP) blynyddol, ac maent yn cael arweiniad a chefnogaeth yn rheolaidd er mwyn symud ymlaen yn eu gyrfa.
- Cyrsiau hyfforddi ar gyfer yr holl staff sy’n ymgeisio am gyllid ymchwil, yn ogystal â chynllun ceisio am grantiau a adolygir gan gymheiriaid, sy’n cynnig adborth gwerthfawr.
Ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa
Mae cyfoeth o gefnogaeth yn cael ei darparu ar gyfer ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, i’w helpu i ymsefydlu yn eu rôl, i gael hyd i gyllid, ac i ddatblygu cyfleoedd gyrfa.
Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys:
- mentora
- mynediad i’n llyfrgell o geisiadau am grantiau
- rhoi darlithoedd gwadd
- cefnogi trefnu modiwlau
- ymwneud â’r strategaeth arwain ac ymchwil
- cefnogaeth wrth ymgeisio am gymrodoriaethau
- cyfweliadau ffug
- cyllid cychwynnol.
Cynorthwywyr ymchwil ôl-ddoethurol
Mae’r Ysgol hefyd yn cyflawni rôl ragweithiol yn cefnogi dyheadau gyrfa hirdymor cynorthwywyr ymchwil ôl-ddoethurol. Rydym ni’n darparu cyfle i ddatblygu sgiliau academaidd pellach, trwy gynorthwyo mewn gweithdai i israddedigion, dosbarthiadau mewn labordy a thrwy ein rhaglen o ddarlithoedd ôl-ddoethurol.
Gall ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a chynorthwywyr ymchwil ôl-ddoethurol gyfranogi hefyd mewn pwyllgorau yn yr Ysgol, yn rôl dirprwy, yn bennaf er mwyn dysgu am y rôl a meithrin profiad o ddyletswyddau rheoli academaidd.
Absenoldeb ymchwil a gweithio hyblyg
Rydym ni’n rhedeg cynllun Absenoldeb Ymchwil parhaus yn y Brifysgol (6-12 mis), sydd ar gael i’r holl staff academaidd.
Mae Cynllun Darlithio Disglair Caerdydd yn hwyluso cyfnodau hwy o absenoldeb ymchwil, ochr yn ochr ag ariannu ymchwilwyr ôl-ddoethurol sy’n pontio i’w swydd addysgu ac ymchwil gyntaf.
Mae ein Hysgol ni yn annog ac yn cefnogi ceisiadau am drefniadau gweithio hyblyg, ac rydym ni’n gweithredu cynllun Cefnogi Dychwelwyr cynhwysfawr i gynorthwyo staff sy’n dychwelyd wedi absenoldeb estynedig