Ewch i’r prif gynnwys

Lleoliadau ym myd diwydiant a recriwtio graddedigion

Rydyn ni wedi bod yn cynnig rhaglenni gradd gyda blwyddyn ar leoliad ym myd diwydiant ers dros 20 mlynedd.

Rydyn ni’n addysgu ystod amrywiol o raddedigion medrus y mae galw amdanyn nhw mewn ystod eang o broffesiynau.

Yn ôl ystadegau diweddar, mae 89% o'n graddedigion mewn cyflogaeth neu astudiaethau pellach ymhen chwe mis ar ôl graddio. Mae 85% o'r myfyrwyr hyn mewn swyddi gweinyddol a phroffesiynol.

Gall myfyrwyr sy’n astudio cyrsiau BSc a MChem bellach dreulio amser ar leoliad ym myd diwydiant. Mae lleoliadau fel arfer yn para am flwyddyn galendr lawn ac maen nhw fel arfer yn dechrau rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Cynnal lleoliad

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cynnal myfyriwr ar leoliad ym myd diwydiant, cysylltwch â:

Picture of James Platts

Dr James Platts

Athro Cemeg Gyfrifiadurol a Ffisegol

Telephone
+44 29208 74950
Email
Platts@caerdydd.ac.uk

Mae ein myfyrwyr wedi ymgymryd â lleoliadau mewn mwy na 35 o gwmnïau gwahanol, gan gynnwys:

3M HealthcareAkzo NobelAstra Zeneca
AWEBAe SystemsCampden BRI
ChemtureCrodaDow Corning
DSMEastman ChemicalsGlaxo SmithKline
Imerys MineralsInfiniumIntertek
MerckNovartisnpower
PfizerPuroliteQuotient
Reckitt BenckiserRSSLTata Steel
Vectura