Gwasanaethau dadansoddol a thechnegol
Rydyn ni’n cynnig gwasanaethau dadansoddol a thechnegol trwy ein harbenigwyr ym maes casglu a dehongli data sy’n defnyddio amrywiaeth eang o offer dadansoddi.
P’un ai dadansoddiad o sampl sengl sydd ei angen, neu ddadansoddiad mwy cynhwysfawr o nifer o samplau gan ddefnyddio sawl techneg, rydyn ni mewn sefyllfa ddelfrydol i gynnig yr atebion sydd eu hangen arnoch chi.
Efallai eich bod yn fiocemegydd profiadol ac yn gwybod yn union pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi, ond os nad ydych chi, gallwn ni eich helpu chi i gael hyd i'r hyn y mae angen i chi ei wybod a sut i gyrraedd eich nod.
Ymholiadau
I drafod eich anghenion, cysylltwch â:
Ein hoffer
Mae ystod amrywiol o offer dadansoddol ar gael i'w defnyddio, gan gynnwys:
- NMR: Amrywiaeth o sbectromedrau hylif 200 MHz i 600 MHz sy’n cynnig dadansoddi 1D, yn ogystal â dadansoddi 2D a lluosog uwch, a sbectromedrau cyflwr solet 400 MHz. Yn benodol, mae gan gyfleuster NMR Maes Uchel Prifysgol Caerdydd sbectromedr NMR cyfnod hylif 600 MHz o'r radd flaenaf gyda chwiliedydd cryo er mwyn cynnal ymchwil yn y gwyddorau ffisegol a bywyd/meddygol. Mae'r offeryn hwn yn ddelfrydol ar gyfer dadansoddi samplau biolegol a moleciwlau bach
- XRD: Adnabod cyfnodau o bowdwr XRD i benderfyniad strwythurol llawn gan ddefnyddio XRD grisial sengl
- GC-MS ac LC-MS: Dadansoddi cymysgeddau cymhleth gan ddefnyddio sbectrometreg màs cydraniad uchel
- EPR / ENDOR: Nodweddu canolraddau paramagnetig ac adweithiol gan ddefnyddio ystod o dechnegau EPR a ENDOR tonnau parhaus a thechnegau â phwls ar amleddau X- a Q-band er mwyn dadansoddi solidau a systemau cyfnod hylif
- Sbectrosgopeg: Is-goch, uwchfioled-weladwy, Laser Raman, ymoleuedd wedi'i ddatrys mewn amser, relaxometreg cylchred maes, dadansoddiad thermol
- Dadansoddi arwynebau: Technegau XPS, AFM a STM.
- Microsgobeg electron: SEM gyda dadansoddi micro-elfennol
- Technegau a raglennir â thymheredd: Dadansoddi grafimetrig thermol, lleihau/ocsideiddio tymheredd rhaglennog,
- Dadansoddi elfennol gan ddefnyddio sbectrosgopeg Allyriadau Atomig Microdon Plasma MPAEs)
- Technegau arsugno: Arwynebedd arwyneb, cyfaint a dosbarthiad maint y mandyllau o bowdrau