Gweithio gyda busnesau
Rydym yn darparu ymchwil a gwasanaethau i sefydliadau o bob maint ar draws ystod eang o ddiwydiannau.
Gallwn eich helpu chi gyda chemeg biolegol, organig, anorganig a chemeg ffisegol trwy:
- brosiectau ymchwil a datblygu
- gwasanaethau technegol a dadansoddol
- gwasanaethau ymgynghorol ac ymchwil cytundebau
- lleoliadau diwydiannol a recriwtio graddedigion
Pam cydweithio â ni?
Ein profiad ni
Mae gan ein cymuned ymchwil dros 50 o wyddonwyr ôl-ddoethurol a 100 o fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig. Fe'u cefnogir gan gyrff cyllido cenedlaethol a rhyngwladol, fel yr EPSRC, y BBSRC, yr UE, Ymddiriedolaeth Leverhulme, y Gymdeithas Frenhinol a'r NSF.
Ein cyfleusterau
Mae gennym gyfleusterau ymchwil rhagorol yn cynnwys:
- amrywiaeth o sbectrometrau cydraniad uchel NMR
- Sbecrometreg màs cydraniad uchel (CB-MS a GC-MS)
- diffractometrau pelydr-x grisial a phowdwr sengl
Ein harbenigedd
Mae gennym hanes llwyddiannus o weithio gyda busnesau sy'n amrywio o'r lleol a'r cenedlaethol i rai o gwmnïau amlwladol mwyaf y byd. Mae ein cysylltiadau ymchwil gweithredol yn cwmpasu 40 o gwmnïau a 120 o brifysgolion a sefydliadau ymchwil o amgylch y byd.