Delweddu niwroseiciatrig
Rydym yn ymchwilio i effeithiau genynnau ar strwythur a gweithrediad yr ymennydd ac ar ymddygiad, yn ogystal â'u rhyngweithio â'r amgylchedd.
Mae ein gwaith yn torri ar draws tair prif thema ymchwil y Ganolfan, sef anhwylderau niwroddirywiol, anhwylderau datblygiadol a seicosis ac anhwylderau affeithiol mawr.
Mae niwroddelweddu anymwthiol yn ein galluogi i archwilio anatomeg a gweithrediad yr ymennydd yn fanwl iawn gan ddefnyddio cyfuniad o ddelweddu atseiniol magnetig (MRI), magnetoenceffalograffi (MEG) ac electroenceffalograffi (EEG).
Mae'r technegau hyn ar gael i ni drwy Ganolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC), lle rydym yn cynnal astudiaethau delweddu ar gleifion ag anhwylderau niwroseiciatrig fel sgitsoffrenia, anhwylderau hwyliau, dibyniaeth, anhwylderau datblygiadol a dementia yn ogystal â gwirfoddolwyr iach.
Mae'r gwaith hwn yn gydweithredol iawn, yn cynnwys ffisegwyr a gwyddonwyr cyfrifiadurol yn ogystal â seiciatryddion, niwrowyddonwyr a seicolegwyr.
Mae'r rhyngweithio â seicoleg yn bwysig i ddiffinio effeithiau ymddygiadol, er enghraifft newid i’r cof neu’r gallu i wneud penderfyniadau, a allai fod â chysylltiad agos â genynnau penodol ond nad ydynt fel arfer yn rhan o'r meini prawf diagnostig ar gyfer ffenoteip clinigol (“endoffenoteipiau”).
Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl (NCMH) a thrwy’r gwaith hwn rydym hefyd yn cefnogi clinigwyr ledled Cymru sydd â diddordeb mewn ymchwil niwroddelweddu.
Mae gwaith y grŵp yn CUBRIC hefyd yn cynnwys cydweithio'n agos â gwasanaethau niwroleg a meddygaeth henaint ledled Cymru, yn bennaf yn y meysydd clefyd Parkinson, sglerosis ymledol, clefyd Huntington a strôc.
Mae ein hymchwil yn drosiadol iawn gan ein bod yn ceisio defnyddio canfyddiadau genetig mewn diagnosis a thriniaeth glinigol a chymharu effeithiau amrywiadau genetig â rhai asiantau ffarmacolegol perthnasol.
Arweinydd thema
Yr Athro Neil Harrison
Clinical Professor in Neuroimaging
- harrisonn4@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 6785
Mae nifer o'n prosiectau ymchwil yn recriwtio aelodau o'r cyhoedd fel gwirfoddolwyr.