Sglerosis Ymledol ac anhwylderau cysylltiedig
Rydym yn ymchwilio i epidemioleg, triniaeth glinigol a phathoffisioleg difrod ac adferiad mewn Sglerosis Ymledol a chyflyrau niwro-lidiol cysylltiedig.
Beth yw Sglerosis Ymledol?
Mae sglerosis ymledol (MS) yn gyflwr niwrolegol llidiol sy'n effeithio ar y systemau nerfol canolog, gan achosi llawer o broblemau corfforol a niwroseicolegol i ddioddefwyr.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael diagnosis rhwng 20 a 40 oed, ond gall MS effeithio ar bobl iau a phobl hŷn hefyd. Mae achosion MS yn aneglur, er ei bod yn debygol bod cyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol yn chwarae rôl.
Ein hymchwil
Ein nod yw nodweddu'r clefyd yn well a hyrwyddo datblygiad strategaethau therapiwtig newydd - rhai ataliol neu sy'n canolbwyntio ar adferiad. Rydym yn cynnal cyfuniad o astudiaethau dan arweiniad ymchwilydd, gan ddefnyddio cronfa ddata fawr o gleifion i hwyluso ein hymchwil a'n treialon masnachol ar driniaethau ataliol a strategaethau atgyweirio.
Ein prif feysydd o ddiddordeb yw:
- Epidemioleg a thriniaeth glinigol
- Niwroimiwnoleg
- Atal niwed i'r ymennydd ac anabledd clinigol
- Hybu adferiad o ddifrod ac anabledd clinigol
- Datblygiad niwroddelweddu strwythurol a swyddogaethol ar gyfer cymwysiadau clinigol
Cydweithrediadau
Mae gennym rwydwaith o gydweithwyr yn y Brifysgol a'r Byrddau Iechyd lleol, yn ogystal â chydweithrediadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae'r cydweithrediadau yn academaidd ac yn ddiwydiannol. Rydym yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas MS y DU at ddibenion ymchwil ac i wella gofal cleifion.
Rydym hefyd yn trefnu cyfarfod blynyddol sy'n dod â chlinigwyr a gwyddonwyr o bob cwr o Gymru a De-orllewin Lloegr ynghyd i drafod diweddariadau mewn ymchwil MS.
Cyfleoedd PhD
Rydym yn cynnig cyfleoedd PhD ac ymchwil ôl-ddoethurol yn y maes hwn yn rheolaidd.
Ymgysylltu â’r cyhoedd
Mae cleifion yn ganolog i'n gwaith ac rydym yn gwerthfawrogi eu mewnbwn yng nghynllun yr ymchwil, yn ogystal â'u cyfranogiad, i helpu i wneud ein hymchwil mor effeithiol â phosibl.
Rydym yn cynnal 'diwrnod MS' bob dwy flynedd ar gyfer cleifion a'u rhoddwyr gofal lle rydym yn eu helpu i ddeall mwy am y cyflwr a'r datblygiadau sy'n cael eu gwneud o ran ei reolaeth.
Adnoddau
Datblygwyd sawl adnodd o'n Diwrnod MS, a ddatblygwyd gyda mewnbwn gan yr Athro Robertson a Dr Tallantyre.
Gallwch gael mynediad atynt drwy Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
I gael gwybodaeth am y Gwasanaeth Niwro-lidiol MS yn Ysbyty Athrofaol Cymru, adnoddau fideo a gwybodaeth bellach i bobl ag MS, ewch i wefan GIG Cymru.
Prif Ymchwilwyr
Yr Athro Neil Robertson
Professor of Neurology, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- robertsonnp@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2074 5403
Our PhD research programmes provide an excellent level of training in all areas of basic and clinical research within the Centre.