Clefyd Alzheimer
Clefyd Alzheimer yw achos mwyaf cyffredin demensia, ac mae'n effeithio ar dros 500,000 o bobl y deyrnas hon.
Mae'n glefyd cynyddol sy'n niweidio celloedd nerfol yr ymennydd gan arwain at sumptomau mwyfwy difrifol dros amser. Mae’n effeithio ar hen bobl gan amlaf, er bod tua 4% o’r rhai sy’n dioddef â’r clefyd o dan 65 oed.
Ers 2004, rydyn ni wedi cydweithio i ddeall rhagor ynghylch sut mae rhai genynnau’n effeithio ar y tebygolrwydd o ddatblygu’r clefyd. Hyd yma, mae dros 3,000 o bobl wedi’n helpu yn ein hymchwil ac, o ganlyniad, rydyn ni wedi cyfarwyddo proses darganfod dros 30 o enynnau sy’n cryfhau’r perygl o ddioddef â’r clefyd.
Mae rhagor fyth o enynnau yn ôl pob tebyg ac, felly, bydd cam nesaf ein hymchwil yn ymwneud â deall rhagor am sut y gall genynnau arwain at glefyd Alzheimer ymhlith pobl o dan 65 oed. Ychydig iawn sy’n hysbys ar hyn o bryd ynghylch pam mae rhai pobl gymharol ifanc yn dioddef â’r clefyd. I ddysgu rhagor am hynny, rydyn ni wedi bod yn cynnal yr astudiaeth helaeth gyntaf o glefyd Alzheimer ymhlith pobl gymharol ifanc.
Rydyn ni wedi gwahodd bron 2,000 o bobl sy’n dioddef â’r clefyd yn ôl barn feddygol, yn ogystal â nifer o bobl iach dros 80 oed heb unrhyw nam ar y cof, i’n helpu yn ein hymchwil.
Bydd hynny’n ein helpu i ddeall rhagor am achosion y clefyd ynghyd â gwella gofal, diagnosis a thriniaeth er lles y cleifion. Does dim angen rhagor o bobl ar yr ymchwil hon bellach. Rydyn ni’n gobeithio cyhoeddi canlyniadau'r ymchwil hwn yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Dementia research contact
Prif ymchwilydd
Yr Athro Julie Williams
Professor of Neuropsychiatric Genetics & Genomics
- williamsj@caerdydd.ac.uk
- +44(0) 29 2068 8326
Rydyn ni’n cynnal ymchwil yn y maes hwn ar y cyd â Chanolfan yr Ymchwil i Heneiddio a Demensia.
Mae nifer o'n prosiectau ymchwil yn recriwtio aelodau o'r cyhoedd fel gwirfoddolwyr.