Dryswch y meddwl
Nod ein hymchwil yw adnabod ffactorau genetig sy'n dylanwadu ar hynt y clefyd.
Mae dryswch yn derm cyffredinol sy'n disgrifio set o sumptomau. Gall rhywun ac arno ddryswch brofi rhai sumptomau neu’r cyfan yn ystod hynt y clefyd.
Ymhlith y sumptomau arferol mae dirywio ynghylch:
- cofio
- gweithredu
- meddwl
- medrau ieithyddol
- deall
- penderfynu
- hwyliau
- medrau echddygol
- gweithgareddau beunyddiol
Mae amryw fathau o ddryswch y meddwl - clefyd Alzheimer yw'r un mwyaf cyffredin. Mae Demensia Corff Lewy, Demensia Blaen yr Ymennydd a Demensia Fasgwlaidd yn fathau eraill sy’n effeithio ar lawer o bobl.
Ein hymchwil
Yr Athro Julie Williams sy'n arwain ein grŵp ymchwil ac mae’n harbenigedd yn cwmpasu gwaith maes, geneteg labordy a gwaith swyddogaethol yn ogystal â biowybodeg ac ystadegau bywyd.
Mae nifer o'n prosiectau ymchwil yn recriwtio aelodau o'r cyhoedd fel gwirfoddolwyr.