E-garfan Anhwylderau Niwroddatblygiadol Cymru Gyfan
Mae plant ac arnyn nhw anhwylderau niwroddatblygiadol megis anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd ac anhwylderau sbectrwm awtistiaeth yn fwy tebygol o ddioddef ag afiechyd y meddwl a mynnu rhagor o wasanaethau iechyd ar ôl dod i oed.
Mae’r rhesymau’n anhysbys am nad oes llawer o ymchwil i’r pwnc. Un maen tramgwydd yw ei bod yn anodd iawn cadw golwg ar blant sy’n dioddef ag anhwylderau niwroddatblygiadol ar ôl iddyn nhw ddod i oed am na fyddan nhw’n mynychu adrannau cleifion allanol, yn aml.
Mae astudiaethau sy'n dilyn unigolion trwy gofnodion meddygfeydd yn ateb hwylus.
Dull yr ymchwil
Mae cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw yn hel data’r GIG, adrannau gwladol ac ysgolion ar gyfer bron pawb yng Nghymru.
Trwy’r data dienw hynny, rydyn ni wedi nodi pob achos o ADHD ac ASD yng Nghymru. Bellach, gallwn ni olrhain deilliannau yn electronig trwy ddata o’r fath i ddarogan deilliannau gwael.
Edrychon ni ar nifer enghreifftiol o blant ac arnyn nhw ADHD yn rhan o’r Astudiaeth o Enynnau ac Amgylchedd ADHD, hefyd. Rydyn ni wedi’u gwahodd i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon a gallwn ni olrhain eu deilliannau yn electronig. Gan fod cymaint o wybodaeth amdanyn nhw gyda ni eisoes, dyma garfan ddelfrydol o ran darogan deilliannau a dadansoddi tueddiadau ymhlith y boblogaeth i gyd.
Ar ôl creu'r setiau data unigryw hynny, gallwn ni ehangu’r ymchwilio i ddarogan deilliannau gwael i’r rhai sy’n dioddef ag anhwylderau niwroddatblygiadol yn ôl diagnosis.
Wellcome Trust sy’n noddi’r prosiect hwn trwy gronfa ar gyfer ymchwil i’r boblogaeth.
Prif ymchwilydd
Cyd-ymchwilwyr (Prifysgol Caerdydd)
Yr Athro Anita Thapar
Clinical Professor, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences
- thapar@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2068 8478
Cyd-ymchwilwyr (Prifysgol Abertawe)
- Professor Ann John
Find out more about our research into neurodevelopmental disorders and mental health problems in young people.