Mae'r Athro Anita Thapar, seiciatrydd plant a phobl ifanc blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes Ming Tsuang gan y Gymdeithas Ryngwladol Geneteg Seiciatrig (ISPG).
Mae Dr Sophie Legge, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) wedi derbyn gwobr Seren Ar Gynnydd yng ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd.
Bu Dr Samuel Chawner, ymchwilydd yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig, yn cymryd rhan mewn digwyddiad sy’n dod ag artistiaid ac ymchwilwyr ynghyd i dynnu sylw at brofiadau’r rhai sy’n dioddef o gyflyrau genetig anghyffredin.
Mae ymchwilwyr yn y Ganolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig (CNGG) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ymuno â sefydliadau ledled Ewrop yn rhan o brosiect i ddatblygu dulliau newydd o bersonoli triniaethau iechyd meddwl.
Yn ôl astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd, mae menywod dros ddwywaith yn fwy tebygol o ddatblygu anhwylder deubegynol am y tro cyntaf yn ystod y perimenopos, o gymharu â chyn y menopos.