Gŵyl Ymchwil Feddygol Cyngor yr Ymchwil Feddygol
Rhagor am ddathliad cenedlaethol Cyngor yr Ymchwil Feddygol o ymchwil feddygol.
Cychwynnodd Cyngor yr Ymchwil Feddygol Ŵyl yr Ymchwil Feddygol fis Mehefin 2016 a’i gorffen yn 2019.
Nod yr Ŵyl oedd arddangos ymchwil feddygol a sut y gall fod o fudd i’n cymdeithas yn ogystal â meithrin ymddiried a dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd.
Digwyddiadau blaenorol
Yn ystod Gŵyl Cyngor yr Ymchwil Feddygol yn 2016, bu nifer o ddigwyddiadau megis:
- dangos ffilm Inside Out ac, wedyn, gêmau'r ymennydd i blant Ysgol Gynradd y Tyllgoed;
- ffilm MRC SciSCREEN o’r enw ‘The Machinist’ ac, wedyn, darlithoedd gan ymchwilwyr megis Gemma Williams (seicosis) a Katie Lewis (cysgu ac iechyd y meddwl).
At hynny, cymeron ni ran yn sesiwn geneteg #PNDHour Twitter i godi ymwybyddiaeth o ymchwil i iechyd y meddwl adeg esgor.
2017
Yn 2017, cynhalion ni Psychosis: Taith gobaith a darganfod, noson gydag ymgyrchwyr blaengar iechyd y meddwl, Jonny Benjamin a Neil Laybourn, lle edrychon ni ar yr ymchwil ddiweddaraf ym maes geneteg seiciatrig a’r frwydr yn erbyn nod cywilydd.
Darlith Jonny a Neil
Gwyliwch darlith Jonny a Neil yn Saesneg.
2018
Yn ein dathliad mwyaf hyd yma, cynhalion ni ffair wyddonol ar safle’r DEPOT.
Addason ni rai ffefrynnau i adlewyrchu meysydd ein hymchwil megis bachu hwyaden, dewis y cardiau cywir, golff gwallgof a jenga. At hynny, roedd pitsa am ddim, darlithoedd gan ein hymchwilwyr yn y Speakeasy a dewin ar daith.
Rhagor am y ffair ynghyd â lluniau ar Facebook.
2019
I nodi'r ŵyl yng Nghaerdydd yn 2019, gwahoddon ni 40 o ddisgyblion Blwyddyn 10 Ysgol Uwchradd Eglwys Rufain Sant Joseff, Casnewydd, i Adeilad Hadyn Ellis i ddysgu am eneteg, iechyd y meddwl a'n hymchwil.
Dangosodd ymchwilwyr sut i dynnu DNA a thrafod newidiadau yn ein genynnau wrth chwarae jenga a dewis y cardiau genetig cywir yn ogystal â rhoi cynnig ar gêm fideo wedi’i llunio dros benwythnos gan ymchwilwyr, llunwyr gêmau a phobl oedd wedi dioddef ag afiechyd y meddwl.