Gweithio yma
Mae’n staff yn elwa ar gyfleusterau o'r radd flaenaf, ein lleoliad yn un o brif ddinasoedd ieuengaf a mwyaf bywiog Ewrop a'n hymrwymiad i’w hyfforddi a’u datblygu.
Lleoliad

Mae ein tîm ar ddau gampws, Parc y Maendy a Pharc y Mynydd Bychan. Mae'r ddau yn agos iawn i ganol dinas Caerdydd.
Mae Caerdydd wedi’i henwi yn gyson ymhlith dinasoedd gorau’r deyrnas o ran ansawdd bywyd am fod cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf, canolfannau siopa arobryn, digon o gyffro gyda’r nos a pharciau hyfryd ynghyd â ffyniant o ran y celfyddydau, cerddoriaeth a bwyd.
Mae rhai o olygfeydd mwyaf syfrdanol Cymru, gan gynnwys Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, o fewn cyrraedd hawdd yn y car.
Rhagor o wybodaeth am fyw a gweithio yng Nghaerdydd.
Cyfleusterau

Mae llawer o'n tîm ym mhrif ganolfan Prifysgol Caerdydd, Adeilad Hadyn Ellis, ar gampws Parc y Maendy.
Mae yno labordy 12,500 o droedfeddi sgwâr ac ystafelloedd biofancio a pharatoi yn ogystal â mannau ar gyfer ymchwil genomeg, meithrin meinweoedd, proteomeg, dadansoddi RNA, organebau a addaswyd yn enetig, ymbelydredd a microsgopeg.
Mae’r offer diweddaraf gyda ni megis sustemau dilyniannu Ion Proton ac Ion Torrent, llwyfannau genoteipio Illumina IScan a BeadXpress, technoleg Life Technologies Open Array a sustem dilyniannu tân Qiagen's Pyromark.
Mae clinig i’r GIG yn Adeilad Hadyn Ellis hefyd, lle mae profion seico-ffiseg yn y labordy ac ymchwil er lles cleifion o dan adain Canolfan Genedlaethol Iechyd y Meddwl.
Mae’r cyfleusterau delweddu diweddaraf ar gael i’n hymchwilwyr trwy Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd Prifysgol Caerdydd.
Datblygu staff

Rydyn ni wedi ymroi i ddatblygu staff a hybu cydraddoldeb ac amrywioldeb yn y gwaith.
Byddwn ni’n adolygu gwaith pawb bob blwyddyn i nodi anghenion o ran hyfforddiant a datblygu gyrfaoedd.
Byddwn ni’n helpu ymchwilwyr ifanc i lunio ceisiadau ar gyfer grantiau a manteisio ar fentrau ariannu cychwynnol.