Cynnwys cleifion a'r cyhoedd
Rydym yn gweithio'n agos gyda chyfranogwyr astudiaethau a'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod ein hymyriadau mor effeithiol, diogel ac wedi'u cynllunio'n dda ag y gallant fod.
Heb gefnogaeth hael y cyhoedd, ni fyddai’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Treialon yn gallu gwneud y gwaith ymchwil effaith uchel y mae’n ei wneud. Mae'r Ganolfan yn hollol ddibynnol ar recriwtio a chadw aelodau brwdfrydig o'r cyhoedd sy'n dymuno cyfrannu i gymdeithas a chenedl fwy iach.
Mae hyn yn golygu nid yn unig rhoi’r holl gymorth sydd ei angen iddynt yn ystod astudiaethau a threialon, cynnwys cleifion yng nghynllun y treial lle bo hynny'n bosibl, ond y tawelwch meddwl sydd gan bob cyfranogwr ei fod yn cael ei warchod gan bolisïau gwarchod data ac ymdrin â data priodol.
Canolfan Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd
Wrth galon ein strategaeth i gynnwys y cyhoedd a chleifion mae Canolfan Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd y Ganolfan Ymchwil Treialon.
Tîm yw hwn sy'n cynnwys aelodau o'r cyhoedd ac ymchwilwyr. Mae'n ffurfio craidd ein hymrwymiad i gynnwys aelodau o'r cyhoedd a chleifion mewn ymchwil, ac mae'n annog ymgysylltu a lledaenu holl ganlyniadau'r astudiaeth mor glir, eang a thryloyw â phosibl.
Rhagor o wybodaeth
Mae ein portffolio o waith yn cynnwys treialon cyffuriau ac ymyriadau cymhleth, mecanweithiau clefydau a thriniaethau, astudiaethau carfan a hysbysu polisi ac ymarfer.