Rheoli Treial
Rheoli Treialon: Arwain ar gyflwyno treial o'r cychwyn cyntaf i'w ledaenu.
Rhagymadrodd
Rheoli treialon yw rheoli prosiectau ymchwil glinigol.
Mae'r tîm rheoli treialon wrth wraidd unrhyw dreialon clinigol. Maent yn gyfrifol am reoli treial/astudiaeth glinigol o ddydd i ddydd, yn ogystal â rheoli prosiectau yn gyffredinol gan sicrhau bod astudiaethau'n cael eu cyflwyno yn ôl yr amserlen a’r targed. Mae hyn yn golygu gweithio i sicrhau bod digon o gyfranogwyr yn cael eu recriwtio, a bod y data a gesglir o ansawdd uchel. Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys datblygu'r protocol astudio a dogfennaeth astudio hanfodol yn ogystal â chydlynu llywodraethu ymchwil a chyflwyniadau rheoleiddiol. Nid yn unig y mae'r tîm rheoli treialon yn sicrhau bod popeth ar waith i gasglu data i ateb y cwestiwn ymchwil, ond maent hefyd yn gyswllt allweddol i'r holl wahanol grwpiau sy'n gweithio i wneud i dreial ddigwydd.
tîm rheoli'r treial
Rydym yn dîm o tua 50 o Bartneriaid Ymchwil / Rheolwyr Treialon a Chymrodyr Ymchwil/Uwch Reolwyr Treialon sy'n gweithio ar draws ystod o feysydd clefydau (Dolen i adran CTR tudalen - Canser; Iechyd yr Ymennydd a Lles Meddyliol; Heintiau, Llid ac Imiwnedd; Iechyd y Boblogaeth a Gofal Cymdeithasol) gyda chyfoeth o brofiad o ddarparu ystod eang o fathau o astudio. Mae enghreifftiau'n cynnwys meddyginiaethau (Ymchwiliadau Clinigol o Gynhyrchion Meddyginiaethol Ymchwiliadol (CTIMPS), ymyriadau cymhleth, dyfeisiau meddygol, mecanweithiau clefydau a thriniaeth, ac astudiaethau carfan. Mae ein hastudiaethau'n digwydd ar draws pob cam o ymchwil glinigol o astudiaethau cyfnod cynnar a dichonoldeb hyd at hapdreialon rheoledig cenedlaethol a rhyngwladol mawr.
Pam mae rheoli treial yn bwysig ar gyfer astudiaethau ymchwil
Mae timau rheoli treialon yn rhan hanfodol o ddylunio, cyflwyno a rheoli astudiaeth yn gyffredinol. Mae'r tîm yn darparu arbenigedd ym mhob agwedd ar reoli prosiectau, gan gynnwys methodoleg treialon, llywodraethu ymchwil, moeseg, contractio a chyllid. Mae'r sgiliau hyn yn hanfodol i sicrhau bod astudiaethau ymchwil yn cael eu cyflwyno i'r safonau ansawdd uchaf o fewn cyfyngiadau amser a chyllideb. Maent yn gyswllt allweddol yn y tîm amlddisgyblaethol, gan gysylltu â chlinigwyr, ymchwilwyr eraill, cynrychiolwyr cleifion, sefydliadau ymchwil a safleoedd ymchwil.
Mae'r tîm rheoli treialon yn allweddol wrth gynhyrchu atebion creadigol i broblemau cymhleth i sicrhau bod y broses o gyflenwi treialon yn rhedeg yn esmwyth ac yn effeithlon.
Mae'r fideo 'Working in clinical trial management' yn dangos y rhan bwysig y mae rheolwyr treialon yn ei chwarae ym maes ymchwil iechyd.
Sut mae rheoli treial yn cyd-fynd â chylch bywyd yr astudiaeth
Mae rôl rheolwr y treial yn ganolog i lwyddiant unrhyw ymchwil glinigol ac mae’n cychwyn ar ddechrau cylch bywyd astudiaethau. Rydym yn gweithio gyda phrif ymchwilwyr ac aelodau craidd eraill o dîm y dreial i ddatblygu astudiaethau a threialon i ateb cwestiwn ymchwil penodol. Yna, rydym yn parhau i fod yn rhan o'r broses o sefydlu a chyflawni, hyd at ddiwedd treial. Mae rheolwyr treialon hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gyhoeddi canlyniadau treial, nid yn unig i ymchwilwyr eraill, ond i aelodau'r cyhoedd, ac yn bwysig, i'r bobl hynny a gymerodd ran yn y treial. Mewn rhai achosion, gall hyn gynnwys gwaith a fydd yn llywio polisi a newidiadau mewn arferion clinigol (ac eraill).
Egwyddorion arweiniol/methodoleg
Yn ganolog i rôl rheolwr y treial mae sicrhau bod treialon ac astudiaethau yn cael eu cyflenwi yn unol â safonau ansawdd, ac o fewn fframweithiau rheoleiddio a moesegol e.e. Canllawiau ar gyfer YmarferClinigol.
Rydym yn Ganolfan Trial Forge sy'n defnyddio ymchwil methodoleg treialon i wella effeithlonrwydd treialon gan adeiladu'r dystiolaeth ar gyfer yr hyn a wnawn a pham.
Arbenigedd unigryw yn y tîm
Mae gennym ystod eang o arbenigedd yn y tîm sy'n gweithio ar draws y portffolio CTR. Mae gan ein rheolwyr treialon amrywiaeth o hyfforddiant gwyddonol a hyfforddiant proffesiynol arall a phrofiad ymchwil. Mae hyn yn darparu hyblygrwydd eang sy'n ein galluogi i ddarparu'r bobl orau oll i gyflawni'r treialon rydym yn eu cydlynu.