Treialon Cymru
Mae Treialon Cymru yn cynnig cyfleoedd ar draws Cymru gyfan i bobl gymryd rhan mewn treialon.
Dyma gangen ymgysylltu â rhanddeiliaid Canolfan Cynnwys y Cyhoedd ac Ymgysylltu, a gynlluniwyd i hwyluso datblygu ymchwil a chydweithio, gan feithrin capasiti a gallu ymchwil ledled Cymru.
Elfennau Allweddol Treialon Cymru
Rhaglen Ymgysylltu â Rhanddeiliaid sy’n cynnig portffolio o ddigwyddiadau yn ogystal â chanolbwyntio ar ymchwil, gan ymgysylltu â’r ymarferydd iechyd a gofal a’r gymuned ymchwil: Mae'r digwyddiadau'n ymdrin ag ystod eang o bynciau i apelio at sbectrwm eang o bobl, o'r ymarferydd sydd â diddordeb mewn ymchwil i'r Prif Ymchwilydd profiadol.
Rhaglen Aelodau Cyswllt: Ar gyfer unigolion, mae Treialon Cymru hefyd yn cynnig y rhaglen aelodau cyswllt, gan gynnig mentora ymchwil un-i-un i bobl sy'n gweithio yng Nghymru sydd am ddatblygu eu dealltwriaeth o waith Uned Treialon Clinigol a gwella eu gwybodaeth ymchwil a'u sgiliau ymchwil treialon eu hunain.
Gweithgareddau
- dau gyflwyniad y flwyddyn ar gyfer treialon ar raddfa fawr mewn ardaloedd o flaenoriaeth uchel i Gymru i NIHR a/neu UKRI
- dwy garfan y flwyddyn o aelodau cyswllt (yn dechrau ar wyth fesul carfan ym mlwyddyn un)
- digwyddiadau rhithwir misol ynghylch agweddau ar dreialon a phedwar digwyddiad rhanbarthol wyneb y wyneb y flwyddyn
Mae'r gwaith hwn wedi'i ariannu am ddwy flynedd rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2025 yn y lle cyntaf. Thrwy bob elfen byddwn yn cael adborth ac yn asesu canlyniadau er mwyn mireinio a datblygu'r rhaglen.
Rydym yn croesawu cydweithio ar ymchwil, at ddibenion rhannu data, ac yn rhan o’n Rhaglen Aelodau Cyswllt. Rhaglen Aelodaeth Gysylltiol