Mae Ymyriadau yn y Carchar ar gyfer Troseddwyr Mwslimaidd (PRIMO) yn dylunio ac yn treialu strategaeth adsefydlu er mwyn gwneud y mwyaf o’r effeithiau adsefydlu mae dilyn Islam yn eu cael yn y carchar, ac i leihau risgiau dirfodol y dewis crefyddol hwnnw.
Nod y prosiect yw ceisio dogfennu ac adrodd "stori" Islam yng Nghymru a gwneud hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn hygyrch i academyddion, y cyhoedd yn ehangach, a Mwslimiaid Cymreig eu hunain, er mwyn ehangu dealltwriaeth y cyhoedd o Gymru amlddiwylliannol ac aml-grefydd.
Drwy edrych ar fywydau ysgolheigion Mwslemaidd hanesyddol, rydym am ddadansoddi ac amlygu’r egwyddorion sy’n gysylltiedig â’r ffordd y gall y traddodiad Islamaidd alluogi ffyniant dynol ac addysgol.