Ymchwil
Mae gennym hanes hir o ymgymryd ag ymchwil amlddisgyblaethol ar amrywiaeth eang o bynciau'n gysylltiedig â bywydau Mwslimiaid ym Mhrydain.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae ymchwil y Ganolfan wedi cynnwys gwaith ar y canlynol:
- y Gaplaniaeth Fwslimaidd
- meithrin ac addysg grefyddol plant Mwslimaidd
- amgylcheddaeth Islamaidd
- lle mae 'llysoedd' crefyddol yn croestorri â chyfraith teulu sifil.
Rydym ni'n arbenigo mewn methodoleg gwyddor gymdeithasol / anthropolegol ansoddol, ac yn pwysleisio cydweithio gweithredol gyda'n cyfranogwyr ymchwil er mwyn ymdrin â materion sy'n bwysig i gymunedau Mwslimaidd Prydain eu hunain. Gwneir hyn drwy brosiectau ymchwil doethurol, yn ogystal â gwaith a gyllidir yn allanol dan nawdd cynghorau ymchwil academaidd fel AHRC/ESRC ac elusennau fel BGCI.
Cydweithio
Ers cael ei lansio yn 2005, mae Canolfan Islam-y DU wedi denu dros £4.6M o gyllid ymchwil gan gynghorau ymchwil academaidd, elusennau a rhoddion preifat. Mae ein Rhaglen Ysgoloriaeth Jameel yn cefnogi ymchwilwyr MA, PhD ac ôl-ddoethurol sy'n gweithio ar bynciau amrywiol.
Enw da rhyngwladol
Er bod llawer o'n hymchwilwyr yn hanu o'r DU, rydym ni hefyd wedi croesawu ysgolheigion rhyngwladol o'r Eidal, UDA a Gwlad Pwyl. Mae Canolfan Islam-y DU ar y blaen o ran ymchwil ym maes 'Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig' sy'n dod i'r amlwg, a bellach mae'n adnabyddus yn rhyngwladol fel y brif ganolfan rhagoriaeth ar gyfer astudio Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain.
Rydym ni'n croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr doethurol am brosiectau'n ymwneud ag astudiaethau gwyddor gymdeithasol ar Islam a Mwslimiaid ym Mhrydain gyfoes.