Waqaus Ali
Mae Waqaus Ali, sy’n strategydd nodedig gyda dros ddau ddegawd o brofiad yn gweithio yn y sector addysg, yn arbenigo mewn datblygiad dynol, rheoli prosiectau cymhleth, a dylunio cwricwlwm arloesol.
Waqaus oedd â’r weledigaeth ar gyfer menter Datblygu Cymeriad Ilm2Amal, ac mae ei syniadau parhaol wedi ail-lunio tirwedd addysg Islamaidd fyd-eang, gan effeithio ar dros 100,000 o feddyliau ifanc ac ysbrydoli addysgwyr a sefydliadau di-rif ledled y byd.
Mae Waqaus yn aelod a berchir o Fwrdd Gweithredol Cymdeithas Fyd-eang Ysgolion Islamaidd sy’n dylanwadu ar addysg mewn 30 o wledydd. Mae’n gynghorydd, hyfforddwr a mentor uchel ei barch, ac mae’n grymuso arweinwyr, addysgwyr, imamiaid ac ysgolheigion fel ei gilydd.
Y tu hwnt i'w waith, mae Waqaus yn cydweithio ag academyddion a dyngarwyr i lywio ymchwil sy'n canolbwyntio ar weithredu a datblygu cymunedol. Yng nghanol ei holl brysurdeb a’r teithio, mae'n mwynhau cefn gwlad Sir Gaerhirfryn gyda'i wraig a'u tri o blant, gan fwynhau anturiaethau teuluol a'r gelfyddyd oesol o adrodd straeon wrth dân gwersyll.