Professor Ghazala Mir
Mae Ghazala Mir yn Athro Tegwch Iechyd a Chynhwysiant ym Mhrifysgol Leeds gyda diddordebau ymchwil mewn anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol.
Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar brofiad pobl nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol gan wasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill ac mae hi wedi arwain gwaith i amlygu blaenoriaethau ymchwil allweddol yn y maes hwn. Mae’n arwain y Rhwydwaith Ymchwil Anghydraddoldebau amlddisgyblaethol ac ymchwil sy’n dod ag academyddion, sefydliadau eiriolaeth, ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus a llunwyr polisi ynghyd i helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n effeithio ar grwpiau difreintiedig.
Mae ei hymchwil wedi'i gyhoeddi gan Sefydliad Ymchwil y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygiad Cymdeithasol ac fel astudiaethau achos o arfer da gan y Prif Swyddog Meddygol a'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.