Dr Hisham Hellyer
Mae Dr H.A. Hellyer, FRHists, yn ysgolhaig yn y Carnegie Endowment for International Peace (UDA), ac mae hefyd yn uwch-gymrawd cyswllt yn y Royal United Services Institute for Defence and Security Studies yn Llundain.
Mae’n gymrawd o Ganolfan Astudiaethau Islamaidd Prifysgol Caergrawnt ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar wleidyddiaeth, astudiaethau diogelwch, economi wleidyddol, a chred yn y Dwyrain Canol, y Gorllewin, a De-ddwyrain Asia.
Gyda thros 20 mlynedd o brofiad mewn cyd-destunau llywodraethol, cynghori corfforaethol ac academaidd yn Ewrop, yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol, a De-ddwyrain Asia, mae ei gyhoeddiadau'n cynnwys 7 llyfr, dros 20 o benodau mewn llyfrau, erthyglau cyfnodolion, a monograffau i wahanol weisg academaidd.
Caiff ei ddyfynnu’n eang yn y wasg ryngwladol, ac mae ei brofiadau blaenorol yn cynnwys swyddi ym Mhrifysgol Warwick, Harvard, y Brifysgol Americanaidd yn Cairo, a Brookings.