Amdanom ni
Mae Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn archwilio’r perthnasoedd rhwng deddfau’r wladwriaeth a deddfau crefyddau.
Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol yn ymchwilio i gysyniadau crefyddol a chyfreithiol o ran hanes cyfreithiol, diwinyddiaeth, a chymdeithaseg crefydd.
Mae ein prif feysydd diddordeb yn cynnwys cyfraith crefydd, astudio cyfraith y wladwriaeth sy’n berthnasol i sefydliadau crefyddol, a chyfraith grefyddol, rheolau mewnol sefydliadau crefyddol. Rydym hefyd yn cymharu cyfreithiau crefydd gwahanol wladwriaethau, y berthynas rhwng cyfraith crefydd y wladwriaeth a chyfraith grefyddol, a’r perthnasoedd rhwng deddfau mewnol sefydliadau crefyddol.
Y gyfraith, crefydd, a chymdeithas
Mae bywydau sefydliadau crefyddol a’u haelodau yn cael eu rheoleiddio gan system gymhleth o reolau – nid yn unig gan rai’r sefydliadau crefyddol eu hunain, ond gan gyfreithiau’r wladwriaeth hefyd.
Yn y cyfnod canoloesol, roedd cyfraith Eglwys Gristnogol y gorllewin yn cael ei hastudio mewn prifysgolion o bwys yn Ewrop oedd yn dyfarnu graddau yn y Gyfraith Eglwysig i’w graddedigion. Fe wnaeth y Diwygiad Protestannaidd yn Lloegr yn yr unfed ganrif ar bymtheg roi diwedd ar astudiaeth o’r fath yng Nghymru a Lloegr. Serch hynny, mae crefydd a chyfraith eglwysig wedi bod yn elfen sylfaenol yn natblygiad y gyfraith gyffredin a thraddodiadau cyfraith sifil, megis ym meysydd priodas a chyfraith teulu, cyfraith droseddol, ymddiriedolaethau, contract a chyfraith gyhoeddus.
Mae diddordeb cynyddol wedi bod yn y gyfraith sy’n ymwneud â chrefydd a sefydliadau crefyddol yn y DU. Mae mwy o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar grefydd, megis amddiffyn rhyddid crefyddol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998, a mwy o achosion yn ymwneud â grwpiau crefyddol yn mynd i’r llysoedd. Mae Canolfan y Gyfraith a Chrefydd yn cyfrannu at y llenyddiaeth gynyddol ar y gyfraith a chrefydd.