Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda ni

Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr lleol a rhyngwladol ar draws pob sector i gyflawni ymchwil gydweithredol a mynd i’r afael â heriau go iawn sy’n wynebu sefydliadau yn y DU ac yn rhyngwladol.

O fusnesau newydd, busnesau bach a chanolig (BBaCh), sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector i gwmnïau rhyngwladol mawr, rydym yn chwilio am bartneriaid lleol a rhyngwladol i gyffroi, ysbrydoli a herio ein cenhedlaeth nesaf o wyddonwyr data, gweithwyr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch ac arbenigwyr deallusrwydd artiffisial.

Mae amrediad o gyfleoedd i chi gydweithio â ni ar ymchwil ac addysgu sy’n ymwneud â seiberddiogelwch, gan gynnwys y canlynol:

  • ysgoloriaethau PhD a ariennir
  • Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
  • darparu prosiectau i fyfyrwyr ddatblygu a magu sgiliau
  • mentora myfyrwyr wyneb yn wyneb ac o bell
  • cyflwyno seminarau gwadd neu sesiynau sgiliau
  • darparu lleoliadau gwaith dros yr haf i fyfyrwyr
  • cyfleoedd i noddi a rhoi bwrsariaeth i fyfyrwyr
  • noddi gwobr/cymhelliant i fyfyrwyr
  • cynorthwyo gyda marchnata a chyhoeddusrwydd

Ein cydweithrediadau

Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus

Arweiniodd partneriaeth £5 miliwn rhwng Prifysgol Caerdydd ac Airbus at ddatblygu Canolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus. Mae’r ganolfan yn weithredol ar draws y diwydiant, y byd academaidd a’r llywodraeth ac yn canolbwyntio ar ddadansoddeg seiberddiogelwch yn y DU.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth gydag arbenigwyr o Airbus er mwyn cyflawni ymchwil ac astudiaethau i ddysgu peiriannol, dadansoddeg data, a deallusrwydd artiffisial ar gyfer canfod ymosodiadau seiber.

Rhagor o wybodaeth am Ganolfan Ragoriaeth mewn Dadansoddeg Seiberddiogelwch Airbus.

Canolfan Ragoriaeth Genedlaethol PETRAS ar gyfer Systemau Seiberddiogelwch IoT

Bydd Canolfan Ragoriaeth PETRAS (Preifatrwydd, Moeseg, Ymddiriedaeth, Dibynadwyedd, Derbynioldeb a Diogelwch) ar gyfer Systemau Seiberddiogelwch IoT (y Rhyngrwyd Pethau) yn ymchwilio i gyfleoedd a bygythiadau sy’n codi pan fydd technolegau Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peiriannol yn datblygu o fod yn systemau canolog i weithio ar gyrion y rhyngrwyd a rhwydweithiau lleol y Rhyngrwyd Pethau.

Byddwn yn arwain llif systemau diogelwch hanfodol y Ganolfan sy’n ffurfio rhan o fenter ehangach Llywodraeth y DU i ddod yn arweinydd byd-eang yn y Rhyngrwyd Pethau a diogelwch systemau cysylltiedig.

Rhagor o wybodaeth am PETRAS.

Sefydliad Ymchwil Llywodraeth y DU mewn Systemau Seiber-ffisegol Rhyng-gysylltiedig Dibynadwy (RITICS)

Ynghyd â 13 o sefydliadau eraill, bydd Prifysgol Caerdydd yn rhan o Sefydliad Ymchwil nodedig Llywodraeth y DU i Systemau Seiber-ffisegol Rhyng-gysylltiedig Dibynadwy (RITICS).

Sefydlwyd RITICS yn 2014 gan Lywodraeth y DU ac fe'i cydlynir gan y Sefydliad Diogelwch Gwyddoniaeth a Thechnoleg (ISST) yng Ngholeg Imperial, Llundain. Fe'i noddir gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) a Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg (EPSRC).

Nod RITICS yw deall a diogelu yn erbyn bygythiadau i systemau hanfodol y DU, fel ein gwasanaethau trafnidiaeth, ynni, gweithgynhyrchu gwerth uchel, dŵr a thelegyfathrebu.

Rhagor o wybodaeth am RITICS.

Cysylltwch â ni

Os hoffech gydweithio â ni, neu os hoffech ofyn cwestiwn, peidiwch ag oedi rhag cysylltu.

Yr Athro Pete Burnap

Yr Athro Pete Burnap

Lecturer

Email
burnapp@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2087 6249