Canllawiau i BBaChau am arferion gorau o ran seibr-ddiogelwch
Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Canllawiau am arferion gorau i BBaChau ar gyfer penderfyniadau buddsoddi mewn seibr-ddiogelwch.
Mae Canolfan Caerdydd ar gyfer Ymchwil Seibr-Ddiogelwch wedi cyhoeddi’r fersiwn gyntaf ar Ganllawiau Arferion Gorau i Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau) ar gyfer Penderfyniadau Buddsoddi mewn Seibr-Ddiogelwch. Mae hyn yn deillio o astudiaeth archwiliol a ariennir gan Ganolfan Seibr-Ddiogelwch y DU (NCSC) a’r Sefydliad Ymchwil ar gyfer Seibr-Ddiogelwch Cymdeithasol-dechnegol (RISCS).
Cyfwelodd y tîm ymchwil â BBaChau yn y DU am eu harferion wrth wneud penderfyniadau am seibr-ddiogelwch. Yna defnyddion nhw ddadansoddiad academaidd trylwyr ar wybodaeth ymarferol a gasglwyd gan BBaChau. Ar sail y dadansoddiad, cynhyrchodd yr ymchwilwyr set o argymhellion sydd wedi’u hysbrydoli gan ymarfer a’u dilysu gan ddiwydiant i BBaChau ynghylch penderfyniadau buddsoddi mewn seibr-ddiogelwch. Dilysodd BBaChau yr argymhellion mewn grŵp ffocws. Mae’r Canllawiau Arferion Gorau yn crynhoi’r argymhellion ar gyfer BBaChau a bydd yn eu cynorthwyo gyda phenderfyniadau gwybodus am seibr-ddiogelwch. Mae’r Canllawiau ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim yn Gymraeg a Saesneg.
Cysylltwch â Dr Yulia Cherdantseva os hoffech chi gyfrannu eich barn at y fersiwn nesaf ar y Canllawiau neu os oes gennych gwestiynau am y prosiect ymchwil hwn
Cysylltwch â ni
Dr Izidin El Kalak
Senior Lecturer (Associate Professor) in Finance
- elkalaki@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2087 4961
Canllaw i helpu i gefnogi gwneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi mewn seiberddiogelwch ar gyfer busnesau bach a chanolig