Pobl
Mae gennym dîm rhyngddisgyblaethol sefydledig sydd â chyfoeth o ragoriaeth ymchwil mewn seiberddiogelwch.
Mae ein tîm yn cynnwys academyddion, ymchwilwyr ôl-ddoethurol a myfyrwyr ôl-raddedig o'r Ysgolion Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Seicoleg, Gwyddorau Cymdeithasol a'r Gyfraith a Gwleidyddiaeth.
Rydym yn cynnig dull cyfannol, integredig a damcaniaethol o ymdrin â seiberddiogelwch sy’n gysylltiedig â phobl a thechnoleg gan ddefnyddio gwyddorau data, deallusrwydd artiffisial a dulliau ystadegol arloesol.
Ein prif nod yw parhau i ddatblygu'r gallu arweiniol hwn i gefnogi arloesedd, penderfyniadau, a gwaith llunio pholisïau sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch o bwysigrwydd cenedlaethol.
Mae amrediad o gyfleoedd i chi gydweithio â ni ar ymchwil ac addysgu sy’n ymwneud â seiberddiogelwch.