Gwybodaeth
Mae’r Ganolfan Ymchwil Seiberddiogelwch yn uno arbenigedd rhyngddisgyblaethol, gan gysylltu adnoddau, ymchwil ac addysg ar draws y Brifysgol. Mae’n darparu pwynt cyswllt naturiol ar gyfer ymgysylltu rhwng diwydiant a’r llywodraeth.
Mae’r Ganolfan yn cael ei chydnabod gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg fel Canolfan Rhagoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch (ACE-CSR).
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o ddim ond 17 ACE yn y DU, a’r ACE cyntaf a’r unig un yng Nghymru.
Ein gwaith
Mae ein gwaith yn y Ganolfan yn cynnwys y canlynol:
- mynd i’r afael â heriau ymchwil arloesol ac ymgorffori’r wybodaeth hon mewn canllawiau ymarferol sydd ar gael i bawb, â hanes mewn effaith ddiwydiannol
- diogelu rhwydweithiau’r sector cyhoeddus a phreifat ac ymateb i ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â seiberddiogelwch i leihau’r niwed a achosir ganddynt i sefydliadau ac economi’r DU
- defnyddio arbenigedd y diwydiant a’r byd academaidd i feithrin gallu seiberddiogelwch y DU ac addysgu’r genhedlaeth nesaf.
Lleoliad
Rydym wedi ein lleoli yn yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg.
Adeiladau'r Frenhines
5 Y Parêd
Caerdydd
CF24 3AA
Cysylltwch â ni
Gan ddefnyddio gwyddorau data arloesol, deallusrwydd artiffisial a dulliau ystadegol, mae ein hymchwil yn ceisio esbonio a modelu ymddygiadau a rhyngweithiadau yn y seiberofod.