Ewch i’r prif gynnwys

Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch

Mae Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch (CCSR) Prifysgol Caerdydd yn uned ymchwil academaidd flaenllaw ar gyfer dadansoddeg seiberddiogelwch.

Mae Canolfan Ymchwil Seiberddiogelwch (CCSR) Prifysgol Caerdydd yn uned ymchwil academaidd flaenllaw ar gyfer dadansoddeg seiberddiogelwch ar draws y DU gyfan. Rydym yn canolbwyntio ar gyfuno gwyddoniaeth ddata a dulliau deallusrwydd artiffisial ag arbenigedd rhyngddisgyblaethol ym meysydd risgiau seibr, dealltwriaeth o fygythion, canfod cyrchoedd ac ymwybyddiaeth sefyllfaol.

Rydym yn cael ein cydnabod gan Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU mewn partneriaeth â Chyngor Ymchwil y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg fel Canolfan Rhagoriaeth Academaidd mewn Ymchwil Seiberddiogelwch.

Mae ein hymchwil yn ceisio deall, esbonio a modelu ymddygiadau a rhyngweithiadau yn y seiberofod gan ddefnyddio arbenigedd o gyfrifiadureg, gwyddorau data, troseddeg a chysylltiadau rhyngwladol.

Darparwn ni amrediad o gyfleoedd PhD yn ogystal â graddau israddedig ac ôl-raddedig sy’n canolbwyntio ar y diwydiant mewn seiberddiogelwch, deallusrwydd artiffisial, gwyddorau data a dadansoddeg.

Ers 2012, rydym wedi sicrhau mwy na £7 miliwn mewn cyllid i gefnogi ymchwil seiberddiogelwch allanol.

Rydym yn dod â chydweithwyr o blith y cyhoedd, diwydiant a’r byd ymchwil at ei gilydd i fynd i’r afael â heriau seiberddiogelwch go iawn sy’n wynebu’r DU a sefydliadau rhyngwladol.