Gweithio gyda ni
P’un a ydych chi’n fusnes neu’n ymwneud ag ymchwil gwyddorau bywyd, gallwn ni gefnogi eich gwaith mewn llawer o ffyrdd.
Rydym ni’n gyfleuster technoleg ardystiedig ISO 9001:2015 sydd â thîm ymroddedig a hynod fedrus, yn cefnogi ystod eang o gyfleusterau ymchwil gwyddorau bywyd.
Yn ogystal â’n hystod eang o wasanaethausafonol, rydym ni’n:
- cynnig ymgynghoriaeth academaidd
- croesawu cwmnïau
- darparu mynediad i gyfleusterau labordy
- cynnig cefnogaeth dechnegol
- hwyluso mynediad i adnoddau ehangach Prifysgol Caerdydd
Mae ein gweithgareddau’n cynnwys gwaith prosiect gyda busnesau ar sail contract, gan groesawu is-gwmnïau Prifysgol Caerdydd a hwyluso cysylltiadau rhwng ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd a diwydiant.
Rydym ni’n croesawu’r cyfle i drafod gwaith prosiect unigryw gyda chi.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:
Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog
Mynediad i gyfleusterau ymchwil sy’n canolbwyntio ar ddadansoddi a delweddu celloedd, genomeg a biowybodeg, a phroteinau a diagnosteg.