Dadansoddi a delweddu celloedd
Mae staff ein cyfleusterau dadansoddi a delweddu celloedd yn arbenigwyr ym meysydd cytometreg llif, didoli celloedd a microsgopeg electronau a golau.
P’un a ydych chi’n ddefnyddiwr profiadol neu’n defnyddio’r cyfleusterau hyn am y tro cyntaf, mae ein tîm ni yma i gynnig gwasanaeth cynhwysfawr i chi, er mwyn sicrhau canlyniadau o’r safon uchaf i’ch prosiect.
Gallwn ni ddarparu gwasanaeth wedi’i reoli’n llawn, cyngor ar ddyluniadau arbrofol, neu’n syml fynediad i’n cyfleusterau.
Cytometreg llif a didoli celloedd
- Offer cytometreg llif pen mainc lluosog: BD FACSCanto II (8 lliw), ThermoFisher Attune NxT (11 lliw) a dadansoddwr celloedd BD LSR Fortessa cell (16 lliw)
- BD FACSAria III (11 lliw) ar gyfer didoli celloedd digidol cyflymdra uchel i diwbiau (4 ffordd), platiau (6, 24, 48, 96 a 384 ffynnon) neu ar sleidiau meicrosgop
- Dadansoddwr Celloedd A3 BD FACSymphony™. 5 laser (gan gynnwys laser UV) a'r gallu i fesur 30 paramedr gyda gallu plât 96/384
Microsgopeg electron a goleuni
- Sganio dadansoddol a throsglwyddiad EM
- Sychu pwynt critigol a chaeniad ffrwtian
- Ynysu a nodweddu nano-ronynnau
- Datblygiad methodolegol gydag arbenigedd nodedig mewn prosesu meinwe unigryw
- JOEL 840A SEM a mynediad i TEM (gwasanaeth a reolir yn unig)
Sylwch nad yw ein Cyfleuster Microsgopeg Electron a Golau wedi'i gynnwys yng nghwmpas ein hardystiad ISO 9001:2015.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gefnogi eich gwaith ymchwil:
Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog
Cwsmeriaid presennol
Os ydych chi eisoes wedi cofrestru ar ein system archebu cyfarpar, mewngofnodwch i archebu.
Mae llyfryn newydd GW4 ar gael sy’n manylu ar yr holl adnoddau a rennir ym maes cytometreg lif sydd ar gael ledled rhanbarth GW4. Offer sy’n cynnig arbenigedd technegol ategol ym mhrifysgolion GW4 (Caerfaddon, Bryste, Caerdydd a Chaerwysg) yw’r adnoddau a rennir. Gall ymchwilwyr ar draws GW4 a thu hwnt, gan gynnwys partneriaid masnachol, eu defnyddio.