Amdanom ni
Rydym yn gyfleuster technoleg blaenllaw yn y DU sy’n cynnig mynediad at ystod eang o gyfleusterau ac arbenigedd technegol cynhwysfawr.
![One of our skilled team of experts working in the technology facility.](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/1324435/about-us3.jpg?w=575&ar=16:9&q=80&auto=format)
Rydym ni’n cynnig mynediad i ystod eang o gyfleusterau ymchwil gwyddorau bywyd, gan gefnogi a galluogi ymchwil academaidd a diwydiannol ar draws diwydiant y gwyddorau bywyd.
Mae ein cyfleusterau ymchwil yn canolbwyntio ar ddarparu cefnogaeth yn y meysydd hyn:
Mae ein tîm o arbenigwyr gwyddonol a thechnolegol yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gan gynnwys cyngor dylunio arbrofol, paratoi samplau, cynhyrchu data a dadansoddi data.
Mae ein hachrediad ISO 9001:2015 yn dangos ein hymrwymiad cryf a pharhaus i ansawdd. Mae ein hachrediad GCLP yn dangos ein rhagoriaeth wrth gefnogi treialon clinigol.
Rydym ni’n croesawu cwsmeriaid o fusnesau a’r gymuned ymchwil.
Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r holl adborth a gawn, gan fod hyn yn ein helpu ni i wella ein gwasanaethau i’r dyfodol. Felly, rydyn ni’n ddiolchgar iawn ichi am roi pum munud o’ch amser i gwblhau’r arolwg hwn. Diolch o waelod calon.