Dulliau ysgogi yn nwfn yr ymennydd anymwthiol
Rydym yn datblygu amrywiaeth o ddulliau ysgogi ymennydd anymwthiol.
Defnyddiwn amrywiaeth o ddulliau symbylu’r ymennydd (TMS a tES) i astudio canfyddiad, sylw ac uwch wybyddiaeth.
Rydym hefyd yn gweithio i wella a mireinio’r dulliau hyn, ar wahân ac ar y cyd â thechnegau delweddu’r ymennydd, gan gynnwys fMRI cydamserol, sbectrosgopi atseinio magnetig (MRS) a MEG.
Er enghraifft, mae ein gwaith diweddar wedi datgelu sut y gall ysgogiad byrstio theta barhaus o’r cortecs gweledol dynol godi lefel y niwrodrosglwyddwr ataliol, GABA.
Rydym hefyd wedi datblygu technoleg shim goddefol sydd bron yn dileu un arteffact mawr o TMS-fMRI cydamserol.
Ymunwch â chymuned amlddisgyblaethol, fywiog a deinamig sy'n meithrin ymchwil sy'n arwain y byd.