Ewch i’r prif gynnwys

Niwrowyddoniaeth wybyddol

An attractive list of cognitive neuroscience keywords

Mae niwrowyddoniaeth wybyddol yn ddisgyblaeth yn y rhyngwyneb rhwng systemau niwrowyddoniaeth, niwrowyddoniaeth cyfrifiadol a seicoleg wybyddol.

Mae cymuned ffyniannus o niwrowyddonwyr gwybyddol yn y Ganolfan yn defnyddio cyfuniad o seicoffiseg, modelu cyfrifiadurol a delweddu ymennydd amlfodd (fMRIdMRI, MRS, MEGTMS a tDCS) i ddeall sylfeini biolegol galluoedd gwybyddol allweddol.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • niwroanatomeg gwybyddol
  • gwneud penderfyniadau
  • emosiwn
  • effaith cwsg ar wybyddiaeth
  • cof
  • canfyddiad
  • rheoli gweithredoedd
  • gywybyddiaeth gymdeithasol.

Mae astudiaethau niwrowyddoniaeth wybyddol drosiadol yn archwilio'r:

  • dadansoddiad o wybyddiaeth mewn anhwylderau niwroddirywiol a niwroddatblygiadol
  • ffenoteipiau gwybyddol sy’n cysylltu risg clefyd polygenig i strwythur a swyddogaeth ymennydd trwy gydol cwrs bywyd
  • niwroblastig mewn ymateb i ymarfer gwybyddol, peirianneg cysgu ac ysgogi yn nwfn yr ymennydd.

Ymchwilwyr

Aline Bompas

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Aline Bompas

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar sut mae pobl yn ymateb yn gyflym i newidiadau yn eu hamgylchedd gweledol. Hoffwn ddatgelu sut mae gwybodaeth weledol yn teithio drwy'r ymennydd dynol, sut caiff ei hintegreiddio gyda gweithgarwch niwronau mewndarddol, a'i defnyddio i lywio penderfyniadau cyflym iawn o ran gweithredu. Ar gyfer hyn, rwy'n dibynnu ar ddyluniadau a dadansoddiadau ymddygiadol soffistigedig sy'n cynnwys symudiadau llygaid a dwylo, modelu cyfrifiadurol ac electroffisioleg (EEG, MEG). Rwy'n defnyddio'r ymchwil hon i ddeall amrywiadau mewn perfformiadau unigolion yn well, yn ogystal â gwahaniaethau unigol yn y boblogaeth iach ac amodau clinigol megis clefyd Alzheimer. Mae fy niddordeb ar gyfer amrywioldeb cynhenid mewn perfformiad dynol yn ehangu i bynciau megis metawybyddiaeth (teimlad goddrychol o fod ar dasg, meddwl yn crwydro), iselder, byrbwylltra neu ADHD.

Andrew Lawrence

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Andrew Lawrence

Mae fy ymchwil yn defnyddio dulliau niwrowyddorau gwybyddol cydgyfeiriol i astudio rôl rhwydweithiau mawr gan gysylltu'r cortecs cyndalcennol â'r system limbig o ran cydlynu a rheoleiddio prosesau gwybyddol-deimladol ar lefel uchel, gyda phwyslais ar sur sut mae gwahaniaethau rhwng unigolion yn strwythur a swyddogaeth y cylchedau hyn yn cyflwyno gwydnwch neu risg o seicobatholeg a dirywiad gwybyddol diwedd oes. Ar hyn o bryd, mae fy labordy, a gynhelir ar y cyd â'r Athro Kim Graham, yn gweithio ar y prosiectau ymchwil canlynol, a ariennir gan MRC, BBSRC, sefydliad Waterloo a Wellcome:

  1. Rôl rhyngweithiadau PFC-Amygdala mewn ymddygiad cymdeithasol-effeithiol ymaddasol, cysylltiad a datgysylltiad cymdeithasol
  2. Rôl rhyngweithiadau PFC-hippocampal mewn cof hunangofiannol a gwybyddiaeth digwyddiadau ar draws cyfnod oes

Chen Song

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Chen Song

Christoph Teufel

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Christoph Teufel

Claudia Metzler-Baddeley

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Claudia Metzler-Baddeley

Niwrowyddonydd gwybyddol ydw i sy'n astudio sut mae heneiddio a niwroddirywiad (clefyd Alzheimer, clefyd y corff Lewy, clefyd Huntington) yn effeithio ar yr ymennydd a gwybyddiaeth. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn rôl myelin a niwroglia o ran heneiddio a chlefydau. Rwyf hefyd yn astudio’r mecanweithiau sy’n sail i blastigrwydd yr ymennydd, gan gynnwys ailfodelu myelin, a sut y gellir eu defnyddio er budd pobl â chlefyd yr ymennydd fel clefyd Huntington (HD). Rwy'n defnyddio dull delweddu ymennydd MRI aml-baramedrig meintiol yn seiliedig ar dechnegau cymhwyso ar sail trylediad, trosglwyddo magneteiddiad ar sail trylediad a relacsometreg ar y cyd â dulliau gwybyddol arbrofol er mwyn mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn. Fi yw Prif Ymchwilydd (PI) Astudiaeth Heneiddio a Risg o Ddementia Caerdydd (CARDS) sy'n ceisio deall y ffactorau risg ac arwyddion rhybuddio cynnar ar gyfer dementia yn ddiweddarach mewn bywyd ac i ddatblygu a gwerthuso ymyriadau hyfforddiant i hyrwyddo'r broses o heneiddio'n llwyddiannus ac atal ac oedi clefydau.

Elisabeth von dem Hagen

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Elisabeth von dem Hagen

Mae fy ymchwil yn ystyried sut rydym yn prosesu signalau cymdeithasol, gan gynnwys signalau emosiwn fel mynegiadau'r wyneb, osgo'r corff ac edrychiad y llygaid. Mae gen i ddiddordeb yn y ffordd y mae ein hymennydd yn ymgorffori nifer o signalau cymdeithasol i greu canfod cydlynol o'r byd cymdeithasol. Mae gen i ddiddordeb arbennig yn sut mae'r gallu i brosesu ac integreiddio signalau cymdeithasol yn datblygu mewn plant nodweddiadol, mewn plant sydd ag anhwylderau niwroddatblygiadol, yn ogystal â phlant sy'n wynebu risg, ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf am ddiagnosis eto. Mae fy ymchwil yn cynnwys cyfuniad o ddulliau ymddygiadol a niwroddelweddu, gan gynnwys seicoffiseg, tracio llygaid, MRI swyddogaethol a thrylediad MRI. Rwy'n gweithio ar y cyd ag ymchwilwyr yn CUBRIC, yng Nghanolfan Ymchwil Awtistiaeth Cymru (WARC), yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Datblygiadol Dynol Prifysgol Caerdydd (CUCHDS) a'r Uned Asesu Niwroddatblygiad (NDAU).

Mae prosiectau sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn cynnwys:

  1. Integreiddio signalau cymdeithasol wrth ddatblygu’n arferol a heneiddio'n iach, a rhwydweithiau’r ymennydd sy'n cefnogi'r galluoedd hyn
  2. Dulliau modelu mathemategol o integreiddio signalau cymdeithasol
  3. Asesu elfennau sylfaenol cydamseroldeb cymdeithasol a sut maent yn tarfu ar blant ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig
  4. Prosesu ac integreiddio signalau emosiynol mewn plant ifanc mewn perygl ag anawsterau ymddygiadol ac emosiynol.

Jiaxiang Zhang

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Jiaxiang Zhang

Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar sut mae’r ymennydd dynol yn integreiddio prosesau gwybyddol er mwyn rheoli ymddygiad. Yna, rydym yn defnyddio dealltwriaeth newydd o'r gweithrediadau gwybyddol hyn i archwilio dynameg niwral a newidiwyd sy’n arwain at epilepsi ac anhwylderau gwybyddol niwroddirywiol. Mae ein prif ddarganfyddiadau wedi cynnwys ein gwybodaeth am y systemau niwral a chyfrifiadol sy’n helpu unigolyn i ddewis beth i’w wneud, gwneud penderfyniadau a bwriadu a’r hyn rydym wedi’i ddysgu ym meysydd iechyd, niwroddirywiad ac epilepsi. Gwnaethom ddefnyddio cyfuniad o niwroddelweddu amlfodd (delweddu atseiniol magnetig gweithredol (fMRI), delweddu ar sail trylediad (DWI), delweddu atseiniol magnetig meintiol (‘quantitative MRI’) a magnetoenseffalograffi (MEG) / electroenseffalograffi (EEG) / stereo-electroenseffalograffi (sEEG)) a modelu cyfrifiadol aml-lefel. Darllenwch ragor yma.

Kim Graham

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Kim Graham

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall y cof dynol drwy brofi rhagfynegiadau a amlinellir yn ein monograff academaidd sydd wedi ennill gwobr gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, ‘The Evolution of Memory Systems: Ancestors, Anatomy, and Adaptations’ (Gwasg Prifysgol Rhydychen). Wrth weithio yn y Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd, rwy'n defnyddio dulliau niwroddelweddu strwythurol a gweithredol, gan gynnwys delweddu atseiniol magnetig maes hynod uchel (‘ultra-high field MRI’), i astudio gwahaniaethau mewn rhwydweithiau niwrowybyddol rhwng unigolion a gofyn sut mae’r gwahaniaethau hyn yn gysylltiedig ag ymddygiad dynol. Mae'r fframwaith hwn hefyd yn ein galluogi i ymchwilio i'r newidiadau strwythurol a gweithredol cynharaf iawn sy'n gysylltiedig â’r risg o iechyd gwybyddol gwaeth yn ddiweddarach mewn bywyd (e.e. drwy astudio dylanwad genynnau risg dementia ar rwydweithiau’r ymennydd). Mae datblygu a defnyddio apiau gwe/symudol (e.e. ein hap MiND) yn ei gwneud yn bosibl i asesu cleifion a chyfranogwyr yn y garfan yn wybyddol, a hynny’n rhan o astudiaethau sy’n ceisio deall y newidiadau critigol i hyd oes sy’n cynyddu’r risg o ddementia’n ddiweddarach mewn bywyd.

Krish Singh

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Krish Singh

Lisa Evans

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Lisa Evans

Matthias Gruber

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Matthias Gruber

Pam rydym yn cofio rhai mathau o wybodaeth yn hawdd am weddill ein hoes ond yn anghofio mathau eraill o wybodaeth ar unwaith? Mae’n glir bod dysgu’n dibynnu ar ein dulliau o brosesu gwybodaeth. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod llawer am sut mae cymhelliant wrth ddysgu’n dylanwadu ar y cof diweddarach. Mae fy labordy yn y Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd, sef y Labordy Cymhelliant a Chof, yn astudio niwrowyddoniaeth cymhelliant a'i effaith ar y cof. Rydym yn defnyddio dull niwroddelweddu amlfodd (delweddu atseiniol magnetig (MRI) gweithredol a strwythurol a magnetoenseffalograffi (MEG) / electroenseffalograffi (EEG)) i ymchwilio i sut mae cymhelliant yn cyfrannu at ddysgu a'r cof. Er mwyn cymhwyso ein canfyddiadau i sefyllfaoedd dysgu go iawn, mae gennym ddiddordeb nid yn unig yn effaith cymhelliant allanol (e.e. gwobrwyo) ar y cof ond hefyd yng ngallu cymhelliant mewnol (e.e. gweld eisiau gwybod rhywbeth neu wneud ymchwil) i wella dysgu a chyfnerthu’r cof. Ar hyn o bryd, mae’r rhan fwyaf o’n prosiectau’n canolbwyntio ar niwrowyddoniaeth chwilfrydedd a sut mae chwilfrydedd yn effeithio ar ddysgu pobl ifanc ac oedolion (gweler TEDx Talks).

Penny Lewis

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Penny Lewis

Mae gennyf ddiddordeb yn bennaf mewn dysgu all-lein wrth gysgu a bod yn effro. Mae fy ymchwil yn ymchwilio i blastigrwydd yr ymennydd ac yn canolbwyntio ar y newidiadau mewn ymddygiad a gweithgarwch niwral sy'n digwydd ar ôl unrhyw ddysgu cychwynnol. Mae gennyf ddiddordeb yn arbennig yn y newidiadau sy'n digwydd tra nad yw’r cof yn cael ei amgodio neu ei ymarfer nac yn atgofio’r gorffennol. Gall y pethau hyn ddigwydd wrth gysgu a bod yn effro. Mae diddordebau’r labordy ar hyn o bryd wedi’u rhannu’n bum prif gategori:

  1. Cyfnerthu sgiliau gweithdrefnol
  2. Cyfnodau emosiynol byr
  3. Newidiad atgofion o rai cyfnodol i rai semantig
  4. Rôl cwsg yn y broses o wneud cysylltiadau creadigol, integreiddio ac ailgyfuno atgofion
  5. ‘Peirianneg gysgu’ neu ffyrdd o reoli cwsg er budd gwybyddiaeth a/neu iechyd gwell (gweler TEDx Talk).

Mae cwsg yn hollbwysig i iechyd a gwybyddiaeth. Mae ein labordy’n datblygu ffyrdd o reoli cwsg er mwyn gwneud y mwyaf o’i effeithiau buddiol, fel gwella’r cof, diarfogi emosiynau negyddol ac atal dirywiad gwybyddol wrth heneiddio.

Petroc Sumner

Ffeindiwch allan fwy o wybodaeth am Petroc Sumner