Cysylltu darganfod geneteg a genomeg i signalau delweddu
Ein gweledigaeth yw deall yr ymennydd mewn iechyd ac afiechyd drwy ddulliau uwch ddelweddu, wedi eu tiwnio i ddatgelu nodweddion perthnasol a phenodol o strwythur a swyddogaeth ymennydd.
Mae’r ymgais am offer ymchwil, diagnostig a prognostig gwell mewn meddygaeth wedi gwthio delweddu atseiniol magnetig (MRI) tuag at gryfderau maes uwch.
Bydd y cynnydd mawr mewn gwybodaeth fiolegol sydd ar gael o ran symud i 7 Tesla ar gyfer MRI a sbectrosgopeg yn dod â budd anghymesur i feddygaeth arbrofol y DU, yn enwedig o ran anhwylderau'r system nerfol ganolog.
Hyrwyddo meddygaeth arbrofol
Mae triniaethau effeithiol yn parhau i fod yn anodd i nifer o glefydau sy'n effeithio ar y system nerfol ganolog, gan gynnwys anhwylderau niwro-ddirywiol, niwroddatblygiadol, niwrolidiol a seiciatrig.
I hyrwyddo meddygaeth arbrofol yn yr ardaloedd hyn, mae angen gwell mesuriadau o strwythur a swyddogaeth yr ymennydd i ddeall mecanweithiau clefydau sylfaenol ac i haenu is-grwpiau cleifion yn well gyda mecanweithiau clefydau gwahanol ac ymatebion triniaeth.
Technoleg delweddu ymennydd gwell
Mae MRI hynod uchel (7T) yn cynnig cynnydd sylweddol yn nhechnoleg delweddu ymennydd a all gynhyrchu mesuriadau o'r fath. Bydd 7T MRI hefyd yn rhoi ffyrdd sensitif i ni o fesur a yw triniaeth newydd yn gweithio ac felly yn helpu i gyflymu datblygiad cyffuriau ac ymyriadau i hyrwyddo atgyweirio’r ymennydd ei hun.
Bydd y gefnogaeth gan MRC ar gyfer caledwedd MRI a thechnolegau mesur ategol i optimeiddio ansawdd data MRI 7T a datblygu ymagweddau delweddu aml-foddol yn cael ei ategu gan gefnogaeth ar raddfa fawr gan y Brifysgol ar gyfer cymheiriaid ymchwil sy'n canolbwyntio ar ddulliau delweddu a chlinigol.
Bydd buddsoddiad y Brifysgol mewn pobl yn sicrhau gweithredu 7T MRI yn fuan a datblygu offer delweddu (er enghraifft, delweddu ymennydd swyddogaethol meintiol, cyferbyniadau rhagdueddiad seiliedig, sbectrosgopeg MR gwell a delweddu aml-niwclear) a’u trosi’n gyflym i ymchwil niwrowyddonol clinigol.
Bydd gan hyn ffocws penodol ar ddarganfod cysylltu geneteg a genomeg i signalau delweddu penodol ac felly'n darparu mewnwelediadau mecanistig sydd yn gallu arwain datblygiad triniaethau newydd.
Cydweithio gydag ymchwilwyr sy'n arwain y byd
Bydd y gwaith hwn mewn cyflyrau megis sgitsoffrenia yn manteisio ar arbenigedd sylweddol yn y maes hwn yng Nghanolfan MRC ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig. Bydd y Brifysgol yn cynyddu cyflymder effaith glinigol drwy weithio'n agos gyda chanolfannau 7T presennol a newydd yn y rhwydwaith UK7T.
Gwnewch gais i ddefnyddio ein cyfleusterau at ddibenion ymchwil, masnachol neu glinigol.